Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cyfraith a Throseddeg: Adroddiadau gyfreithiol a deddfwriaeth

Deall cyfeirnodau: Adroddiadau achosion

Mae gan bob adroddiad i achos gyfeirnod sy'n dangos sut i ddod o hyd iddo.  Dyma enghraifft:

Johnson v Rea [1962] 1 QB 373.

Mae gan bob cyfeirnod elfennau tebyg sy'n gymorth wrth chwilio.  

  • Johnson v Rea = Dyma enwau’r partïon;
  • [1962] = y flwyddyn y cafodd yr achos ei adrodd. Nodwch, weithiau bydd oedi rhwng y dyfarniad a chyhoeddi’r adroddiad. Mae cromfachau sgwâr yn golygu bod y dyddiad yn hanfodol er mwyn dod o hyd iddo.
  • 1 = rhif y gyfrol;
  • QB = talyfyriad y gyfres adroddiadau cyfraith. Mae 'QB' yn golygu adran y 'Queen's Bench' o gyfres ‘The Law Reports’. I ganfod ystyr talfyriadau/byrfoddau cyfreithiol, edrychwch ym Mynegai Caerdydd i Fyrfoddau Cyfreithiol. 
  • 373 = tudalen gyntaf yr adroddiad.

Felly, i ganfod yr adroddiad, yn gyntaf mae angen dod o hyd i gyfres ‘The Law Reports: Queen's Bench’. Nesaf, ewch i'r adroddiadau o 1962 a dewiswch gyfrol '1'.  Trowch i dudalen 373 ac fe welwch yr adroddiad: Johnson v Rea [1962] 1 QB 373

Cyflwynwyd cyfeirnodau niwtral yn y DU ym 2001 ar gyfer dyfarniadau o bob adran o’r Uchel Lys.  Ni ddynodir cyhoeddiad printiedig gan y talfyriad fel yng ngyfeirnod safonol;  yn hytrach, mae’r talfyriad a welwch yn y cyfeirnod niwtral yn dynodi ym mha lys y gwrandawyd yr achos. Mae'r cyfeirnodau hyn yn annibynnol ar unrhyw gyhoeddiad printiedig, ac felly fe’u gelwir yn ‘gyfeirnodau niwtral’.

Dyma engrhaifft:

Fisher v English Nature [2004] EWCA Civ 663

  • Fisher v English Nature: enwau’r partïon
  • [2004]: y flwyddyn y gwrandawyd yr achos. Nodwch y gwahaniaeth rhwng hyn a chyfeirnod safonol, lle mae'r flwyddyn yn nodi’r flwyddyn y cafodd yr achos ei adrodd.
  • EWCA Civ: talfyriad y llys lle y gwrandawyd yr achos. Mae 'EWCA Civ' yn golygu England & Wales Court of Appeal, Civil Division. I ganfod talfyriadau eraill, defnyddiwch Mynegai Caerdydd
  • 663: dyfarniad rhif 663 y gwrandawiad yn yr EWCA Civ yn y flwyddyn 2004.

Adroddiadau Achosion: Westlaw & Lexis

Dyma ffilmau byr yn dangos sut i ganfod achosion gan ddefnyddio Westlaw UK a sut i ganfod achosion a deddfwriawth yn Lexis Library.  Mae'r ffilmau yn y Saesneg.

I ddysgu sut i chwilota achosion gyda Westlaw, cliciwch y delwedd isod, cliciwch 'Access through Academic Institution' yna dewiswch Prifysgol Aberystwyth.

Talfyriadau Cyffredin

I ganfod ystyr talfyriad yng nghyfeirnod i adroddiad achos, defnyddiwch Fynegai Caerdydd i Fyrfoddau Cyfreithiol.  Mae detholiad o fyrfoddau cyffredin wedi'u rhestru isod. 

Cyfres The Law Reports

  • AC   Appeal Cases
  • Ch  Law Reports, Chancery Division
  • QB  Law Reports, Queen's Bench Division
  • KB   Law Reports, King's Bench Division
  • Fam Law Reports, Family Division
  • Law Reports, Probate Division

Cyfresu arall

  • All ER All England Reports
  • BCLC Butterworths Company Law Cases
  • Cr App R  Criminal Appeal Reports
  • Cr App R (S) Criminal Appeal Reports Sentencing
  • FSR  Fleet Street Reports
  • ICR  Industrial Cases Reports
  • IRLR  Industrial Relations Law Reports
  • Lloyd's LR Lloyd's Law Reports
  • P & CR  Property, Planning and Compensation reports
  • SC   Session Cases (Scottish)
  • WLR Weekly Law Reports