Mae'r tair cronfa ddata isod yn bwysig iawn wrth astudio'r gyfraith. Byddwch yn clywed am y rhain a chronfeydd eraill gan Lyfrgellydd y Gyfraith a Throseddeg yn ystod modiwlau megis Sgiliau'r Gyfraith a thrwy gydol eich astudiaethau. Os hoffech gymorth wrth ddefnyddio Lexis, Westlaw, HeinOnline neu unrhyw adnoddau electronig, gofynnwch yn y llyfrgell neu cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc.
Un o gewri byd gwybodaeth y gyfraith yw Lexis Library. Mae'n cynnwys adroddiadau'r gyfraith a deddfwriaeth (ffynonellau craidd y gyfraith), cyfnodolion academaidd, ac adnoddau craidd megis Halsbury's Laws of England..
Westlaw yw'r cawr arall ym maes astudiaethau'r gyfraith. Yma cewch adroddiadau'r gyfraith, deddfwriaeth, cyfnodolion academaidd, a chyfeirlyfrau pwysig. Mae Westlaw a Lexis yn cynnwys deunydd gwahanol i'w gilydd, felly mae'n bwysig ymarfer defnyddio’r ddwy gronfa ddata.
Mae HeinOnline yn un o brif gronfeydd cyfnodolion a chylchgronau academaidd y gyfraith. Yma, cewch ffynonellau eilaidd sy’n dadansoddi a thrafod materion pwysig a chyfoes yn y gyfraith.
A selection of journal titles available through Primo:
A selection of journal titles available through Primo:
Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.
Liam Bird yw cynrychiolydd Westlaw UK ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni. Prif waith Liam yw eich helpu chi i gael y gorau o danysgrifiad y llyfrgell i Westlaw UK. I gael manylion am sesiynau hyfforddi Westlaw, cysylltwch â Liam ar lib21@aber.ac.uk
Beth alla i ei ddysgu mewn sesiwn Westlaw?
Mae sesiynau Westlaw yn cael eu cynnal yn wythnosol ar amrywbynciau. Os oes gennych unrhyw broblemau penodol gyda defnyddio Westlaw neu eisiau trefnu i gael prawf ardystio, yna cysylltwch â Liam.
Ond yna mae yna fwy! Bydd Westlaw yn cynnal sawl digwyddiad trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys cystadleuaeth ymryson. Trwy ddod i'r sesiynau hyn gallwch ddysgu ac ymarfer sut y gall Westlaw eich cynorthwyo yn eich holl anghenion. Felly galwch heibio heddiw i weld sut y gall Westlaw eich helpu chi!