I gael gwybodaeth gyffredinol am sut mae Mynediad Agored yn gweithio gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/research/good-practice/open-access/
I gael gwybodaeth fanwl am Gytundebau Trawsnewidiol ac argaeledd Taliadau Prosesu Erthyglau rhagdaledig neu am bris gostyngol gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/open-access/
Os ydych chi neu'ch Sefydliad yn cyhoeddi llyfr, cyfnodolyn neu gyfres o fonograffau mewn print neu ar-lein, efallai yr hoffech ystyried y canlynol:
• cael ISBN (ar gyfer llyfrau neu gyhoeddiadau untro eraill)
• cael ISSN ar gyfer cyfnodolion neu gyfres
• adnau cyfreithiol (gofyniad cyfreithiol ar bob cyhoeddiad yn y DU ac Iwerddon)
• cael DOI (Dynodwr Gwrthrych Digidol) ar gyfer gwaith ar-lein. Os yw'r cyhoeddiad yn Pure, bydd fel rheol yn cael ei greu'n awtomatig. Os nad yw yn Pure cysylltwch â pure@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth
Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/isbn/
Yn amodol ar ddiddordebau trydydd parti megis cyllidwyr/partneriaid masnachol, mae ymchwil a gynhyrchir gan aelod o staff y Brifysgol yn eiddo i'r Brifysgol.
Gweler y Polisi Eiddo Deallusol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr sy'n darparu dolenni awtomatig i erthyglau testun llawn wrth ichi wneud ymchwil a dod ar draws llenyddiaeth ar y we.
Mae LibKey Nomad yn chwilio ein daliadau Llyfrgell a data mynediad agored i ddod o hyd i'r fersiwn orau o'r erthygl tra byddwch chi'n chwilio'r we ac yn dod ar draws llenyddiaeth.
Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio.
Pan fyddwch chi'n glanio ar dudalen gydag erthygl sydd ar gael i'w lawrlwytho, bydd baner LibKey Nomad yn ymddangos ar waelod eich sgrin. Cliciwch i lawrlwytho'r PDF. Os ydych chi oddi ar y campws, bydd angen i chi fewngofnodi trwy VPN yn gyntaf.
Os ydych chi'n defnyddio'r cronfeydd data academaidd PubMed a Scopus, mae LibKey yn darparu nodweddion ychwanegol. Ar y dudalen canlyniadau chwilio gallwch weld dolenni i ddogfennau PDF o erthyglau a dolenni i weld yr holl erthyglau mewn rhifyn cyfnodolyn trwy BrowZine.
Gweler ein tudalennau Hawlfraint i weld sut mae'r Sefydliad yn rheoli hawlfraint: