Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gynorthwyo ymchwil uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y canllaw hwn cewch gyngor, gwybodaeth, dolenni i wasanaethau'r llyfrgell, sut i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau, cyfleoedd am sgiliau a hyfforddiant a ffyrdd o sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf.
Gall y Llyfrgellwyr Pwnc o fewn y tîm Cysylltiadau Academaidd ddarparu cymorth wrth i chi astudio ar lefel uwchraddedig. Gallwn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau a'ch cyfeirio at offer defnyddiol a gwefannau perthnasol. Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc trwyadl i fyfyrwyr. Rydym yn cynnig apwyntiadau un-i-un i'ch helpu â'ch ymchwil a'ch adolygiadau llenyddiaeth.
Gallwch ddod o hyd i'ch Llyfrgellydd Pwnc trwy fynd i'r weddalen ganlynol:
Tîm Cysylltiadau Academaidd , Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 621896
Ebost: llyfrgellwyr@aber.ac.uk
Rydym yn cynnig apwyntiadau un-i-un i'ch helpu â'ch ymchwil a'ch adolygiadau llenyddiaeth. Caiff yr apwyntiadau hyn eu cynnig ar-lein drwy Microsoft Teams.
Gallwch archebu apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc drwy ddefnyddio ein tudalen apwyntiadau ar-lein:
https://www.aber.ac.uk/en/is/library-services/librarians/
Tanysgrifiwch i Blog y Llyfrgellwyr i dderbyn newyddion am weithgareddau'r Llyfrgellwyr Pwnc