Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cefnogaeth Llyfrgell i Ymchwilwyr: Cadw i fyny

Llyfrau newydd yn y Llyfrgell

Ymwelwch â Primo i weld arddangosfa treiglol o'r llyfrau newydd sydd wedi cael eu archebu i'n llyfrgelloedd. 

Ewch i'r dudalen Chwilio am fwy o lyfrau newydd i:

  • weld rhestr o'r llyfrau sydd wedi cyrraedd yn fwyaf ddiweddar i'r Llyfrgell

  • chwiliotwch am lyfrau newydd yn ôl dyddiad cyrraedd, fformat a phwnc (dosbarthiad Llyfrgell y Gyngres)

  • sefydlwch hysbysiad RSS fel eich bod yn cael eich hysbysu pan fydd llyfr newydd yn cyrraedd y llyfrgell  sy'n cyd-fynd â'ch chwiliad

Papurau Newydd

Dewch draw i’r llyfrgell i bori drwy ein casgliad o bapurau newydd neu edrych ar y casgliad cynhwysfawr o bapurau newydd o’r gorffennol a’r rhai cyfredol rydym yn tanysgrifio iddynt  ar-lein:

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i e-adnoddau sy'n rhoi mynediad i chi at lawer o bapurau newydd rhyngwladol a phapurau newydd yn y Deyrnas Unedig. Cewch edrych arnynt trwy fewngofnodi i'r Primo lle gallwch ddod o hyd i restr o ffynonellau newyddion cyfredol a newyddion o’r gorffennol yn Nghronfeydd Data A-Z, ynghyd â gwybodaeth am fynediad oddi ar y campws.

Mae adnoddau allweddol ar gael drwy ddefnyddio Gale Reference Complete sy'n cynnwys:

  • Gale Onefile News: cronfa-ddata testun-llawn sy’n chwilio papurau newyddion rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.
  • Times Digital Archive: argraffiadau digidol cyflawn o’r Times rhwng 1785 a 2014.