Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cefnogaeth Llyfrgell i Ymchwilwyr: Dadansoddi Dyfyniadau

Bibliometreg

Mae bibliometreg yn cyfeirio at ddadansoddiad meintiol y gallwn ei ddefnyddio i asesu allbwn ymchwil. Gall defnyddio bibliometreg helpu i fesur patrymau o awduraeth, cyhoeddi a'r defnydd o lenyddiaeth a chyfeiriadau. Caiff ei ddefnyddio yn fwy eang erbyn hyn i asesu effaith ymchwil, er y gellir mesur effaith mewn ffyrdd meintiol eraill megis: cyfri cyhoeddiadau, nifer y myfyrwyr PhD a chyfanswm yr incwm ymchwil. Dylid nodi hefyd bod dadansoddiad ystyrlon o fibliometreg yn amrywio rhwng pynciau, a chaiff ei ddefnyddio'n bennaf mewn meysydd gwyddonol.

Yn ôl 'Measuring your Research Impact (MyRI)', yn aml defnyddir bibliometreg:
1. Fel tystiolaeth i gynorthwyo ymchwilydd sy'n cael ei ystyried am ddyrchafiad, daliadaeth a chyllid grant.
2. Wrth benderfynu ble i gyhoeddi ymchwil, er mwyn sicrhau cyfradd weld a dyfynnu uchel drwy dargedu cyfnodolion effaith uchel.
Ceir canllaw i rai o'r termau arbenigol a ddefnyddir wrth ddadansoddi dyfyniadau yn y Metrics Toolkit.

Mesurau eraill o Effaith Ymchwil (Altmetreg)

Mae asesu effaith ymchwil cyfnodolion, sefydliadau ac awduron drwy ddadansoddi dyfyniadau'n ffurfiol wedi cael ei ddrychweddu gan ddatblygiad dadansoddiadau canmoliaethus o effaith ymchwil. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o effaith ymchwil ar lefel erthygl unigol, effaith lefel ficro megis rhannu setiau data a modelau, yn ogystal â mesur ymddangosiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Cyfeirir at y mesurau hyn, neu fetreg eraill, yn aml fel 'Altmetreg'.

Ceir hyd i egwyddorion sylfaenol agweddau cyfryngau cymdeithasol metreg ymchwil ar y wefan Altmetreg. Yn ogystal â dyfyniadau ffurfiol, mae safleoedd altmetreg yn cipio mesurau cymdeithasol megis nifer y darllenwyr, cadw, lawrlwytho, llyfrnodau, negeseuon blog, storïau newyddion, trydar/ail-drydar, rhannu a chyfraddau.
Mae systemau eraill yn caniatáu i unigolion ychwanegu eu cyfeiriadau eu hunain i systemau effaith cyfryngau cymdeithasol. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus yw PlumAnalytics.