Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr sy'n darparu dolenni awtomatig i erthyglau testun llawn wrth ichi wneud ymchwil a dod ar draws llenyddiaeth ar y we.
Mae LibKey Nomad yn chwilio ein daliadau Llyfrgell a data mynediad agored i ddod o hyd i'r fersiwn orau o'r erthygl tra byddwch chi'n chwilio'r we ac yn dod ar draws llenyddiaeth.
Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio.
Pan fyddwch chi'n glanio ar dudalen gydag erthygl sydd ar gael i'w lawrlwytho, bydd baner LibKey Nomad yn ymddangos ar waelod eich sgrin. Cliciwch i lawrlwytho'r PDF. Os ydych chi oddi ar y campws, bydd angen i chi fewngofnodi trwy VPN yn gyntaf.
Os ydych chi'n defnyddio'r cronfeydd data academaidd PubMed a Scopus, mae LibKey yn darparu nodweddion ychwanegol. Ar y dudalen canlyniadau chwilio gallwch weld dolenni i ddogfennau PDF o erthyglau a dolenni i weld yr holl erthyglau mewn rhifyn cyfnodolyn trwy BrowZine.
Mae'r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig ofyn am eitemau nad ydynt ar gael yn Llyfrgell y Brifysgol. Gallwn gynorthwyo staff a myfyrwyr i ymchwilio a dysgu trwy ganfod a darparu llyfrau, penodau, ac erthyglau sy'n cael eu cadw gan lyfrgelloedd eraill. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau dyrannu i'r gwahanol grwpiau defnyddwyr ymhob adran academaidd, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
Cliciwch fan hyn i gael mwy o wybodaeth ac i weld faint o geisiadau am ddim y cewch eu harchebu.
JSTOR
Archif aml-ddisgyblaethol o bamffledi, llyfrau a chyfnodolion academaidd.
Cronfa-ddata testun-llawn sy’n chwilio papurau newyddion rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.
Gwasanaeth monitro a chwilio am gyhoeddiadau ymchwil byd-eang. http://zetoc.jisc.ac.uk/
Cewch hyd i ddeunydd academaidd Mynediad Agored a'i ddefnyddio trwy Primo, catalog llyfrgell y Brifysgol, a Phorth Ymchwil Aberystwyth.
Mae swm cynyddol o ddeunydd academaidd hefyd yn cael ei roi ar y rhyngrwyd fel deunydd Mynediad Agored. Mae hyn yn golygu nad yw wedi'i guddio tu ôl i wal dâl a'i fod yn ar gael i unrhyw un. Weithiau mae'r dogfennau hyn yn fersiynau sydd â'r un cynnwys â fersiwn derfynol a gyhoeddwyd ond fe'u gelwir yn ôl-argraffiadau neu'n Llawysgrifau sy'n cael eu Derbyn gan Awduron. Weithiau maent yn fersiynau terfynol cyhoeddedig.
Nid yw'n hawdd dod o hyd i ddeunydd o'r fath bob amser felly mae llawer o offer a gwefannau ar gael a all helpu myfyrwyr ac ymchwilwyr i ddod o hyd i erthyglau, llyfrau a chyfnodolion sydd, yn fwriadol ac yn gyfreithiol, wedi'u cyhoeddi fel adnoddau Mynediad Agored. Fe'u rhestrir ar y tabiau canlynol. Mae rhai wedi'u cynnwys ar system y Brifysgol, mae'n bosib bod angen ychwanegu eraill fel estyniadau i'r porwr. Nid yw pob un yn gweithio ar bob porwr.
Gellir dod o hyd i gynnyrch ymchwil Prifysgol Aberystwyth hefyd trwy'r adnoddau a'r gwefannau hyn.
Mae nifer o gasgliadau arbennig y Brifysgol ar gael ar gyfer ymchwil, megis y Casgliad Celtaidd (sydd ar gael i'w fenthyca), y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd, casgliad Appleton ar brintio lliw a rhwymo, a Chasgliad Horton o ddeunyddiau plant. Mae yna hefyd gasgliadau sydd wedi'u curadu gan adrannau megis Llyfrgell Fapiau E.G. Bowen a Chasgliadau'r Ysgol Gelf.
Edrychwch ar dudalen Casgliadau Arbennig y Brifysgol neu cysylltwch â librarians@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.