Lle bynnag yr edrychwch, mae data ym mhobman! Yn syml, data yw ffeithiau plaen am rywbeth. Rhaid casglu, dehongli a chyflwyno'r data er mwyn iddo fod ag ystyr. Data yw'r cynhwysion amrwd y mae ystadegau'n cael eu creu ohonynt.
Mae ystadegau'n ddefnyddiol pan fydd angen i chi gefnogi dadl a gallant fod yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol ar gyfer eich astudiaethau.
Gellir cynnal dadansoddiad ystadegol ar ddata i ddangos perthnasoedd ymhlith y newidynnau a gasglwyd. Trwy ddadansoddi data eilaidd, gall llawer o wahanol ymchwilwyr ailddefnyddio'r un set ddata at wahanol ddibenion.
Wrth werthuso data ystadegol, dyma rai cwestiynau i feddwl amdanynt ...
Awdur
Pwy yw'r awdur? Ydyn nhw'n ddibynadwy?
Cyfnod Amser
Beth yw ystod dyddiad y data? Hanesyddol, cyfredol neu ystod o flynyddoedd? Cofiwch ei bod yn cymryd peth amser i gasglu data.
Daearyddiaeth
Pa wlad, gwladwriaeth, sir, ac ati, a allai grynhoi'r data rydych chi ei eisiau?
Ffynonellau
A yw'r ystadegau'n ddibynadwy / gywir? A ydyn nhw'n dod o ffynonellau awdurdodol fel y llywodraeth neu sefydliad rhyngwladol? A ellir eu gwirio?
Argaeledd
Pa ddata sy'n debygol o fod ar gael?
Sylw
A yw'r sylw'n gyflawn?
Gall mapiau, print a digidol, fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar draws ystod o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys amaethyddiaeth, gwyddorau biolegol, y ddaear a'r diwydiant gwledig. Gall mapiau o'r dref a'r tir ddarparu llawer o fanylion a gall mapiau hanesyddol ddangos datblygiad ar draws y canrifoedd.
Cyfeiriadur Global Change Master
Archif - UK National Air Quality
Ystadegau Llywodraeth Cymru Mynediad i feysydd pwnc ystadegau Llywodraeth Cymru.
StatsCymru Data swyddogol ar Gymru (cyffredinol).
Asiantaeth Iechyd Anifeiliad a Phlanhigion
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
IBIS World adnodd ardderchog ar gyfer gwybodaeth ac ystadegau am gwmnïau a’r sector diwydiant.
Canolfan Gyhoeddiadau Ystadegau Gwladol y DU Porth i Ystadegau Gwladol y DU.
UK Data Service y casgliad mwyaf yn y DU o ddata cymdeithasol, economaidd a phoblogaeth (data ar y DU a Rhyngwladol).
Ystadegau Amaethyddiaeth Organig
Ystadegau Gwladol Ar-lein Mynediad i ystadegau swyddogol y DU (2008 ymlaen).
Ystadegau Cymdogaeth Ystadegau lleol swyddogol llywodraeth y DU. Adroddiadau ar gael drwy ddefnyddio chwiliadau cod post.
Arweiniad i’r adnoddau data rhyngwladol sydd ar gael yn eang Dolenni i wefannau ystadegau swyddogol cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol.
Cenhedloedd Unedig - Comisiwn Ystadegol
EUROPA Ystadegau Amaethyddol a mesuryddyion yr Undeb Ewropeaidd
Global Health Observatory (GHO) Data Dyma porth i ystadegau cysylltiedig â iechyd o bob cwr o'r byd.
NationMaster Casgliad o ddata o ffynonellau fel y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd. Gallwch chwilio, cymharu unrhyw ddwy wlad yn ôl categori a phori yn ôl gwlad.
Quandl Setiau data cyfres-amser o 400 ffynhonnell. Yn cynnwys prisiau olew, graddfeydd cyfnewid, diweithdra a marchnadoedd stoc y byd.
UN DataExplorer Mynediad am ddim i brif ystadegau rhyngwladol y byd gan y Cenhedloedd Unedig. Yn cynnwys ystadegau gan y sefydliad bwyd ac amaethyddiaeth (FAO).
Undeb Ewropeaidd – Porth Data Agored Mynediad i ddata yr Undeb Ewropeaidd.
UNWTO Tourism Statistics ystadegau cyfredol ar dwristiaeth o bob cwr o’r byd.
World Factbook Cyflwyniad cyffredinol i bob gwlad a disgrifiadau cryno o nifer o agweddau gan gynnwys pobl, llywodraeth, economi a thrafnidiaeth.
Cefnogaeth Mathemateg ac Ystadegau
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Mathemateg ac Ystadegaeth yn cael ei redeg gan yr Adran Fathemateg.
Cynlluniwyd y porth hwn i gynorthwyo academyddion a myfyrwyr newydd i ddefnyddio meddalwedd SPSS:
Hefyd, mae yn y llyfrgell lyfrau SPSS ar gael i’w benthyca;