Mae “cyflogadwyedd” yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio'r sgiliau, y rhinweddau a'r cyflawniadau sy'n gwneud unigolion yn fwy tebygol o ennill cyflogaeth a sicrhau llwyddiant yn eu gyrfa. Gall hyn fod mewn perthynas â phroffesiwn penodol, hunangyflogaeth, ymchwil neu yrfa academaidd.
Mae cyflogadwyedd yn gynyddol bwysig o fewn addysg uwch i sicrhau bod graddedigion yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd dewisol yn y dyfodol.
Nid yw'r Llyfrgell yno'n unig i'ch cefnogi chi i ennill gradd. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am eich gyrfa.
Mae gan y Llyfrgell ystod eang o lyfrau ac e-lyfrau i'ch cefnogi boed yn ysgrifennu CV llwyddiannus, cwblhau'ch cais am swydd i awgrymiadau defnyddiol wrth baratoi ar gyfer cyfweliad.
Cymerwch gip ar ychydig o enghreifftiau o'r teitlau sydd ar gael yn y Llyfrgell ...
Sgiliau Llyfrgell
Fel myfyriwr, rydych chi wedi datblygu sgiliau wrth chwilio am wybodaeth, ei dadansoddi a'i dehongli yn ogystal â defnyddio gwybodaeth yn gywir ac yn effeithiol. Mae'r sgiliau hyn yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.
Trefnwch apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc, Non, i gael arweiniad pellach ar gyfoethogi eich sgiliau llyfrgell trosglwyddadwy a ...
Mae IBERS wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygu rhagolygon gwaith hirdymor eu myfyrwyr. Ei bwriad yw darparu cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau i’r gweithle i’w helpu i sicrhau gyrfa briodol ar ôl graddio.
Maent yn gwneud hyn mewn sawl ffordd gan gynnwys:
Cymerwch gip ar yrfaoedd ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Yma fe welwch wybodaeth a dolenni defnyddiol wrth chwilio am brofiad gwaith a swyddi graddedigion.
Mae gan AGBAG (IBERS) Ymgynghorydd Gyrfaoedd proffesiynol i hyrwyddo cyflogadwyedd. Ei rôl yw cynnig cyngor ac arweiniad diduedd am y broses pontio i gyflogaeth raddedig, neu astudiaethau ôl-raddedig.
James Cuffe yw’r Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gyfer IBERS. Mae myfyrwyr yn gallu cael help dros y ffôn, 01970 62 8413, e-bostio jpc11@aber.ac.uk . Mae’r gwasanaeth ar gael cyn ac ar ôl graddio – yn rhad ac am ddim.
Mae croeso i fyfyrwyr sy'n ansicr o'u cam nesaf, neu sydd â chyfeiriad clir o yrfa ddefnyddio'r gwasanaeth. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth i gynorthwyo i chi yn eich datblygiad gyrfa.
Pwrpas y Gwasanaeth Gyrfaoedd yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhalgar sy’n fodd i fyfyrwyr a graddedigion unigol gyflawni eu dyheadau, gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch bywyd, a chyflawni eu potensial.
Mae tudalennau gwe Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn darparu cefnogaeth o ddewis gyrfa, profiad gwaith, dod o hyd a gwneud cais am swydd i fod yn barod i weithio.
Mae cymorth ar gael i:
Gallwch ymweld â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd - mae'r swyddfa drws nesaf i Siop Undeb y Myfyrwyr ar gampws Penglais.
Oriau agor:
Manylion cyswllt cyffredinol:
Mae chwaraeon a gwyddoniaeth ymarfer corff yn cyfuno astudiaeth o biomecaneg, ffisioleg, seicoleg a maeth. Mae'n datblygu nifer fawr o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, datrys problemau yn effeithiol, rheoli prosiectau, ymchwil, ynghyd â dadansoddi data, menter, rheoli amser a thechnoleg gwybodaeth.
Ceir mwy o wybodaeth ar yrfaoedd chwaraeon a gwyddoniaeth ymarfer corff ar y dudalen yma: https://www.aber.ac.uk/cy/careers/undergraduate/subject-specific-information/sport-exercise-science/
I chwilio a dod o hyd i lyfrau sy'n gysylltiedig â gyrfafoedd, defnyddiwch ein catalog llyfrgell, Primo.
Dyma rai enghreifftiau o'r teitlau sydd ar gael:
Ymwelwch â gwefan Prospects: https://www.prospects.ac.uk/
Dyma wefan gyrfaoedd graddedigion fwyaf y Deyrnas Unedig gyda mwy na 2.3 miliwn o borwyr misol.
Maent yn helpu i arwain myfyrwyr a graddedigion i ddyfodol disglair gyda gwybodaeth, cyngor a chyfleoedd.
Mynediad rhad ac am ddim i adroddiadau blynyddol gan dros 5000 o gwmnïau ledled y byd.
Mae data digidol cyhoeddus a gedwir ar gofrestr y DU o gwmnïau ar gael yn rhad ac am ddim, ar y gwasanaeth chwilio beta cyhoeddus newydd.
Mae hyn yn rhoi mynediad i dros 170 miliwn o gofnodion digidol am gwmnïau a chyfarwyddwyr gan gynnwys cyfrifon ariannol, ffeiliau cwmnïau a manylion am gyfarwyddwyr a swyddogion ysgrifenyddol trwy gydol bywyd y cwmni.
Mae’r comisiwn yn darparu rheolaeth i elusennau yng Nghymru a Lloegr ynghyd â data ariannol a gwybodaeth allweddol i elusennau.
Cysylltwch â Non, eich Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych unrhyw ymholiad llyfrgellyddol neu os hoffech drefnu cyfarfod:
Ebost: nrb@aber.ac.uk
Trefnu apwyntiad: