Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Addysg: Casgliadau

Casgliadau TAR

Casgliad TAR

Casgliad o adnoddau i fyfyrwyr TAR, i'w hadnabod trwy chwilio am label gwyrdd ar y meingefn. Yn ystod cyfnodau ymarfergol gall myfyrwyr TAR fenthyg y llyfrau hyn am gyfnod cyfan y lleoliad. Adnoddau i'w benthyca am bythefnos, tridiau a chyfnod byr yw'r holl adnoddau eraill.

Defnyddiwch Primo primo.aber.ac.uk i chwilio trwy'r catalog llyfrgell ar-lein, i reoli eich benthyciadau llyfrgell ac i ddarganfod e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd-data.

Casgliadau Prifysgol Aberystwyth

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn dal casgliadau o ddeunyddiau at ddibenion academaidd ym meysydd y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Gwyddorau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. 

Cewch fanylion am ein holl gasgliadau ein tudalen Casgliadau Prifysgol Aberystwyth.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell adnau cyfreithiol yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy'n hawlio copi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon.

Gallwch bori drwy'r catalog a chwilio'r casgliadau arlein. Mae rhai casgliadau wedi eu digido a gellir eu gweld arlein. Fe gewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau digidol ar dudalen Adnoddau LlGC.

JISC Library Hub Discover

Casgliadau Arbennig

Gall y casgliadau arbennig canlynol fod o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr Addysg: