EBSCO Education (cynnwys British Education Index ac ERIC)
Pecyn EBSCO Education (gan gynnwys British Education Index ac ERIC)
Mae’r pecyn EBSCO Education yn cynnwys y British Education Index, Child Development & Adolescent Studies, ERIC (Education Resource Information Center), Education Abstracts ac Educational Administration Abstracts http://search.ebscohost.com/
JSTOR
Archif amlddisgyblaethol o gyfnodolion, llyfrau a phamffledi academaidd. http://www.jstor.org/
PsycARTICLES
Cronfa-ddata o Gymdeithas Seicolegol America / American Psychological Association. Mynediad i destun cyflawn bron i 50 o’r cyhoeddiadau seicoleg pwysicaf yn cwmpasu disgyblaethau Ffisioleg Ddynol, Seicoleg Personoliaeth, Seicoleg Gymdeithasol, Seicoleg Addysgiadol, a mwy
Cronfa-ddata testun-cyflawn sy’n chwilio papurau newyddion rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.
Mae erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid wedi cael eu hadolygu a’u derbyn gan arbenigwyr yn eu maes cyn cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfnodolion yn cadw eu henw da a bod ansawdd yr ymchwil yn cael ei gynnal.
Defnyddiwch yr hidlydd yn Primo i chwilio yn ôl 'Wedi’u Hadolygu gan Gymheiriaid'.
Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.
Casgliad Llên Plant
Dewch i archwilio’r casgliad Llên Plant, sydd wedi’i leoli ar Lefel F, nod dosbarth PZ. Mae gennym ddetholiad da o ffuglen i blant, yn amrywio o lyfrau lluniau a llenyddiaeth gyfoes i blant i ffuglen i oedolion ifanc. Bydd yn arbennig o ddefnyddiol i chi os ydych yn astudio TAR neu Astudiaethau Plentyndod/Addysg.