Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch cynorthwyo i:
• Ddod o hyd i adnoddau am wahanol gwmnïau, diwydiannau a chyngor cyffredinol am yrfaoedd
• Darganfod adnoddau i feithrin sgiliau digidol a gwybodaeth hanfodol i wella'ch rhagolygon ar ôl graddio
• Ymchwilio i'ch llwybr gyrfa dewisol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a llunio ceisiadau am swyddi
Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gynorthwyo cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y canllaw hwn cewch gyngor, gwybodaeth, dolenni i wasanaethau'r llyfrgell, sut i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau, cyfleoedd am sgiliau a hyfforddiant a ffyrdd o sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae “cyflogadwyedd” yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio'r sgiliau, y rhinweddau a'r cyflawniadau sy'n gwneud unigolion yn fwy tebygol o ennill cyflogaeth a sicrhau llwyddiant yn eu gyrfa. Gall hyn fod mewn perthynas â phroffesiwn penodol, hunangyflogaeth, ymchwil neu yrfa academaidd.
Mae cyflogadwyedd yn gynyddol bwysig o fewn addysg uwch i sicrhau bod graddedigion yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd dewisol yn y dyfodol.
Nid yw'r Llyfrgell yno'n unig i'ch cefnogi chi i ennill gradd. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am eich gyrfa.
Mae gan y Llyfrgell ystod eang o lyfrau ac e-lyfrau i'ch cefnogi boed yn ysgrifennu CV llwyddiannus, cwblhau'ch cais am swydd i awgrymiadau defnyddiol wrth baratoi ar gyfer cyfweliad.
Cymerwch gip ar ychydig o enghreifftiau o'r teitlau sydd ar gael yn y Llyfrgell ...
Tîm Cysylltiadau Academaidd , Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 621896
Ebost: llyfrgellwyr@aber.ac.uk
Sgiliau Digidol
Mewn byd lle mae technoleg ddigidol yn treiddio i bob agwedd ar fywyd, mae pawb angen sgiliau digidol.
Rydym yn gweithio gyda dau sefydliad i ddarparu adnoddau digidol a chyrsiau hyfforddi ychwanegol i'ch helpu i ddysgu sgiliau newydd ac i feithrin hyder yn eich galluoedd digidol.
Sgiliau Gwybodaeth
Fel myfyriwr, rydych wedi datblygu'r sgiliau i chwilio am wybodaeth, ei dadansoddi a'i dehongli yn ogystal â defnyddio gwybodaeth yn gywir ac yn effeithiol. Mae'r sgiliau hyn yn werthfawr iawn i gyflogwyr.
Archebwch apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc i gael arweiniad pellach ar sut i wella’ch sgiliau trosglwyddadwy a...
• dysgu sut y gall y Llyfrgell eich cynorthwyo i wella eich sgiliau llythrennedd gwybodaeth
• dysgu sut i chwilio'n effeithiol a gwerthuso'r wybodaeth y dewch o hyd iddi
Gallwn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau a'ch cyfeirio at adnoddau defnyddiol a gwefannau perthnasol. Rydym yn cynnig apwyntiadau un-i-un ar-lein trwy Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb i'ch cynorthwyo i ddod o hyd i ddeunyddiau ar gyfer eich aseiniadau, gwaith ymchwil ac adolygiadau o lenyddiaeth. Archebwch fan hyn:
Llyfrgellwyr Pwnc : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth