Noder bod yr hawlfraint ar gyfer yr holl hen bapurau arholiad sydd ar gael yma yn eiddo i Brifysgol Aberystwyth. Gallwch argraffu copi sengl ar gyfer astudio personol a gall staff ddefnyddio copïau’n fewnol. Ar gyfer unrhyw waith copïo, ailddosbarthu neu gyhoeddi arall (o unrhyw bapur cyfan, neu ran ohono) mae’n rhaid cael caniatâd gan y Brifysgol. Mae mynediad i’r papurau wedi’i gyfyngu i staff a myfyrwyr sydd â mewngofnod a chyfrinair PA cyfredol. Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth geisio cael mynediad i hen bapurau neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth cysylltwch ag: Proffiliau Staff.
Bydd y dudalen Arholiadau ac Asesiadau (Cofrestrfa Academaidd) yn eich cynorthwyo i ganfod gwybodaeth am y pethau canlynol:
Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Bydd y Casgliad Astudio Effeithiol yn eich helpu i:
Lleoliad
Lleolir y Casgliadau Astudiaeth Effeithiol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.
Mae pob eitem yn y Casgliad Astudio Effeithiol yn cael ei hychwanegu at gatalog y Llyfrgell, Primo, ac maent yn cynnwys y rhagddodiad STUDY yn y nod dosbarth.
Presgripsiwn Llyfrau Cymru - Canfod llyfrau hunangymorth o ansawdd uchel yn y llyfrgell Ymhlith y pynciau a drafodir mae dicter, iselder, straen, gorbryder, hunan-barch isel ac anhwylderau bwyta.
Canolfan Chwaraeon: Rhyddhau Straen Arholiadau
Iechyd a Llesiant Undeb y Myfyrwyr