Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau o e-lyfrau.
Mae gennym filoedd o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n barhaus.
Gallwch gael mynediad i ddarllen e-lyfr drwy Primo. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Testun Llawn Ar-lein yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer elyfrau yn unig.
Os oes gennym y llyfr mewn fersiwn electronig, bydd y cofnod ar Primo yn datgan Mynediad arlein.
Ymwelwch â'r dudalen Llyfrau Electronig am fwy o wybodaeth a gweld cyfarwyddiadau ar:
Sut ydw i'n gael mynediad i e-lyfrau.
Gellir canfod gyd o'n e-lyfrau drwy pori drwy ein catalog llyfrgell, Primo. Teipiwch mewn eich allweddeiriau a phan welwch Mynediad Ar-lein yn erbyn y llyfr penodedig, dewiswch drwy glicio ar y linc cyfatebol i naill ai i'w ddarllen ar-lein neu i'w lawrlwytho.
Cofiwch mewngofnodi i Primo VPN cyn dechrau! (gweler cyfarwyddiadu gyferbyn).
Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:
Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.
Myfyrwyr yn unig
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr 'rydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano trwy'r ymgyrch Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig).
Bydd pob llyfr sy'n cael ei archebu drwy'r ymgyrch yn cael ei osod yng nghasgliad y llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen Mwy o Lyfrau.