Yn ein hymdrechion i reoli effaith coronafirws (COVID-19), bydd holl weithgareddau cymorth llyfrgell wyneb yn wyneb yn dod i ben.
Mae Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar gau nes clywir yn wahanol.
Cysylltwch â fi:
E-bost: ssg@aber.ac.uk
Rhif ffôn: 01970 62 1870
(am ymholiadau neu i drefnu cyfarfod MS Teams)
neu
Trefnu Apwyntiad (Skype yn unig)
Defnyddiwch y linc isod o dan fy llun yn y blwch Manylion Cyswllt i ddod o hyd i ddyddiadau ac amseroedd ac i drefnu apwyntiad neu ewch i https://libcal.aber.ac.uk/appointments/sarah
Dewiswch ddydd ac amser yn ôl y trefn arferol.
Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:
Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.
AM DDIM – e-lyfrau ac adnoddau eraill ar-lein sydd ar gael ichi dros-dro gan gyhoeddwyr academaidd, ac eraill. Peidiwch ag anghofio chwaith bod eich llyfrgelloedd cyhoeddus a chenedlaethol yn adnoddau rhyfeddol ar-lein.
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).