Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Addysg Gofal Iechyd: Cyfeirnodi ar gyfer Addysg Gofal Iechyd APA (7fed argraffiad)

APA - American Psychological Association (Addysg Gofal Iechyd)

Y pethau sylfaenol i gofio

Un o nodweddion pwysicaf ysgrifennu academaidd yw cydnabod llyfrau, erthyglau cyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth eraill rydych wedi’u defnyddio yn eich gwaith, fel arfer drwy gyfeirio atynt yn eich aseiniad a rhestru pob un ar y diwedd mewn rhestr gyfeirio. Yn aml iawn, fe gewch farciau am wneud hyn yn gywir felly mae’n sgil sy’n werth ei dysgu cyn gynted ag y gallwch.

Os na fyddwch yn cydnabod eich ffynonellau mae’n bosib y byddwch yn cyflwyno syniadau neu ddyfyniadau rhywun arall fel eich rhai chi eich hun. Llên-ladrad yw hynny; nid yw’r Brifysgol yn caniatáu hyn a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.

Cysylltwch â Simone sia1@aber.ac.uk / llyfrgellwyr@aber.ac.uk eich Llyfrgellydd Pwnc os oes angen rhagor o gyngor neu gymorth.

Archebwch apwyntiad gloywi APA 7fed Addysg Gofal Iechyd ymaOs nad wyf ar gael, cliciwch yma i wneud apwyntiad gydag aelod arall o dîm y llyfrgell

Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad

LibGuide Addysg Gofal Iechyd

Mae hwn yn ddull sy'n defnyddio fformat awdur-dyddiad ar gyfer cydnabyddiaethau yn y testun ac yna'n rhestru manylion llawn y ffynhonnell yn nhrefn yr wyddor yn y rhestr gyfeirnodi.

Enghreifftiau o gydnabyddiaethau yn-y-testun:

  •    Yn rhan o'r naratif e.e. Mae Adams (2019) yn dadlau bod...
  •    Yn dilyn yn syth ar ôl ymadrodd e.e. Mae'r canllaw cyfredol yn rhoi darlun cyffredinol o APA (Adams, 2019).

Os ydych chi’n rhoi cydnabyddiaeth am ddyfyniad uniongyrchol, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi rhif y dudalen ar ôl y flwyddyn: (Adams, 2019, t. 42).

Os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth i lyfr neu erthygl sydd â sawl awdur, dilynwch y rheolau hyn:

2 awdur: rhowch gydnabyddiaeth i'r ddau ohonynt bob amser (Polit a Beck, 2017)

3-20 awdur: Nodwch gyfenw'r awdur cyntaf ac yna et al (Perry et al., 2020)

Sylwch ar y gwahaniaeth rhwng dyfyniad naratif a dyfyniad rhwng cromfachau.

Yn ôl Chambers a Ryder (2018) tosturi yw ….

…mae tosturi yn agwedd allweddol ar ofal nyrsio (Chambers & Ryder, 2018).

 

Enghreifft dalfyriad:

Cydnabyddiaeth gyntaf: Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB, 2018)...neu...(Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB), 2018).

Cydnabyddiaeth ddilynol: CNB (2018)...neu...(CNB, 2018).

Gweler y tabiau canlynol i gael cyngor ynglŷn â chreu rhestr gyfeirnodi.
 

Dyfyniadau (enghraifft diffiniad)

Mae'r APA yn cynghori y dylid osgoi defnyddio dyfyniadau uniongyrchol yn ormodol.

Os ydych chi’n rhoi cydnabyddiaeth am ddyfyniad uniongyrchol, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi rhif y dudalen ar ôl y flwyddyn: (Adams, 2019, t. 42).

Un enghraifft o bryd i ddefnyddio dyfyniad, yn hytrach nag aralleirio, yw pan fyddwch chi'n atgynhyrchu diffiniad union.

Enghraifft 1

Dyfyniad

“Admission is the formal acceptance of a patient into a service” (National Health Service, 2019, t.8). 

Cyfeirnod

National Health Service. (2019). Admission, transfer, and discharge policy for inpatient services. https://www.dtgp.cpft.nhs.uk/FileHandler.ashx?id=794

Pan fo’r awdur a'r cyhoeddwr yr un fath, dylech hepgor enw'r cyhoeddwr er mwyn osgoi ailadrodd.

Enghraifft 2

Dyfyniad

“The act or process of allowing someone to enter a hospital as a patient, because they need medical care” (Cambridge University Press, n.d.).

Cyfeirnod

Cambridge University Press. (n.d.). Hospital Admission. Yn Cambridge dictionary. Cyrchwyd Chwefror 22, 2024 o https://dictionary.cambridge.org/dictionary/english/hospital-admission

Pan fydd gwaith cyfeirnod ar-lein yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ac nad yw'n cael ei archifo, dylech ddefnyddio "dim dyddiad" a chynnwys y dyddiad y cawsoch y wybodaeth. Nid yw'r rhan fwyaf o gyfeiriadau yn cynnwys dyddiad cyrchwyd.

APA: Dyfyniadau

APA: Cyfeiriadau Mynediad Geiriadur

Creu'r rhestr gyfeirnodi:

Wrth gyfeirnodi llyfr dilynwch y drefn hon:

•    Awduron, cyfenw ac yna blaenlythrennau
•    Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau
•    Teitl, mewn print italig
•    Argraffiad y llyfr (os nad yr argraffiad cyntaf)
•    Cyhoeddwr

Enghraifftiau: Llyfr
Rhestr Gyfeirnodi:

Barber, P., & Robertson, D. (2020). Essentials of pharmacology for nurses (4ydd arg.). Open University Press.

Jasper, M. (2013). Beginning reflective practice (2il arg.). Cengage Learning.

Wrth gyfeirnodi e-lyfr dilynwch y drefn hon:

  • Awduron neu olygyddion (Goln.), cyfenwau ac yna blaenlythrennau.
  • Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau
  • Teitl y llyfr, mewn print italig.
  • Argraffiad (os nad yr argraffiad cyntaf)
  • Dolen gyswllt URL neu DOI

*Os yw'r e-lyfr yn dod o gronfa ddata ymchwil academaidd ac nad oes ganddo DOI nac URL sefydlog, does dim angen unrhyw beth yn y cyfeirnod ar ôl enw'r cyhoeddwr. Peidiwch â chynnwys enw'r gronfa ddata yn y cyfeirnod. Yr un yw'r cyfeirnod yn yr achos hwn ag ar gyfer llyfr print.

Enghraifftiau: e-lyfr

Loschiavo, J. (2015). Fast Facts for the School Nurse: School Nursing in a Nutshell (2il arg.). Springer. https://doi.org/10.1891/9780826128775

Cottrell, S. (2019). The study skills handbook (5ed arg.). Red Globe Press.

Wrth gyfeirnodi pennod o lyfr wedi'u olygu dilynwch y drefn hon:

•    Awdur y bennod, cyfenw yn gyntaf ac yna llythrennau cyntaf.
•    Blwyddyn cyhoeddi
•    Teitl y bennod
•    Yn + awduron y llyfr cyfan (Goln.)
•    Teitl y llyfr
•    Tudalennau'r bennod
•    Cyhoeddwr

Enghraifftiau: pennod o lyfr

Grayer, J., Baxter, J., Blackburn, L., Cooper, J., Curtis, E., Dvorjez, L., Finn, L., Gaynor, D., Henderson, B., Jagger, C., Keating, L., Leigh-Doyle, J., Lister, S., Mathiah, R., & Mohanmmed, A. (2021). Communication, psychological wellbeing and safeguarding. Yn S. E. Lister, J. Hofland & H. Grafton (Goln.), The Royal Marsden manual of clinical nursing procedures (10fed arg., tt. 133-204). Wiley-Blackwell.

Smyth, M. J., & Filipkowski, B.K. (2010). Coping with stress. Yn D. French, K. Vadhara, A.A. Kaptein, & J. Weinman (Goln.), Health Psychology (tt. 271-283). Blackwell Publishing.

*Wrth gynnwys hyn fel cydnabyddiaeth o fewn y testun, byddech yn cyfeirio at awduron y bennod yn unig, ac nid y golygyddion. Er enghraifft: dywed Smyth a Filipkowski (2010) fod… neu..(Smyth a Filipkowski, 2010).

Wrth gyfeirnodi erthygl dilynwch y drefn hon:

•    Awduron, cyfenwau ac yna blaenlythrennau.
•    Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau.
•    Teitl yr erthygl.
•    Teitl y cyfnodolyn, mewn print italig.
•    Cyfrol y cyfnodolyn, mewn print italig.
•    Rhifyn y cyfnodolyn, mewn cromfachau.
•    Ystod tudalennau'r erthygl.
•    DOI yr erthygl, os yw ar gael.

Enghraifftiau: Erthygl mewn cyfnodolyn

Edwards, A. A., Steacy, L. M., Siegelman, N., Rigobon, V. M., Kearns, D. M., Rueckl, J. G., & Compton, D. L. (2022). Unpacking the unique relationship between set for variability and word reading development: Examining word- and child-level predictors of performance. Journal of Educational Psychology, 114(6), 1242–1256. https://doi.org/10.1037/edu0000696

Jones, A., Rahman, R.J., & O, J.A. (2019). Crisis in the Countryside - Barriers to Nurse Recruitment and Retention in Rural Areas of High-Income Countries: A Qualitative Meta-Analysis. Journal of rural studies, 72, 153–163. https://doi.org/10.1016/j.jrurstud.2019.10.007

Erthygl mewn cyfnodolyn - Rhestr wirio

Wrth gyfeirnodi gwe-ddalen dilynwch y drefn hon:

•    Cyfenw'r awdur ac yna blaenlythrennau NEU enw'r sefydliad. Teitl y we-ddalen os nad oes awdur.
•    Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau).
•    Teitl.
•    URL.

Enghraifft: gwe-ddalen

World Health Organisation (WHO). (2019). WHO updates global guidance on medicines and diagnostic tests to address health challenges, prioritise highly effective therapeutics, and improve affordable access. https://www.who.int/news/item/09-07-2019-who-updates-global-guidance-on-medicines-and-diagnostic-tests-to-address-health-challenges-prioritize-highly-effective-therapeutics-and-improve-affordable-access  

Gall dogfen ar y we gynnwys adroddiadau llywodraeth neu ddogfennau polisi. 

•    Awduron, yn cynnwys blaenlythrennau.
•    Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau.
•    Teitl, mewn print italig.
•    URL

Enghraifftiau:
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. (2017). Strategaeth Iechyd a Gofal Powys: Gweledigaeth hyd at 2027 a thu hwnt. https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/dogfennau-allweddol/strategaethau-a-chynlluniau/cyd-strategaeth-iechyd-a-gofal-ar-gyfer-powys-2017-2027-fersiwn-gryno/

Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. (2018). Y Cod: Safonau ymarfer proffesiynol ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. https://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/nmc-publications/nmc-code-welsh.pdf

Llywodraeth Cymru. (2018).Yn Gryno – Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol. https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-04/cymru-iachach-ein-cynllun-iechyd-a-gofal-cymdeithasol.pdf

Llywodraeth Cymru. (2022). Y datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oeshttps://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2022/10/5/1665149567/y-datganiad-ansawdd-ar-gyfer-gofal-lliniarol-gofal-diwedd-oes.pdf

Enghraifftiau:

Deddfau/Mesurau/Ystatudau

Yn y testun

(Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), 2010) neu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), (2010)

Rhestr gyfeirio

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. https://www.legislation.gov.uk/cy/mwa/2010/7/contents/welsh

---

Yn y testun

(Deddf Plant, 1989) neu Deddf Plant (1989)

Rhestr gyfeirio

Deddf Plant 1989, c. 41. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1989/41

---

Y Goruchaf Lys

Yn y testun

(Montgomery v. Lanarkshire Health Board, 2015) neu Montgomery v. Lanarkshire Health Board (2015)

Rhestr gyfeirio

Montgomery v. Lanarkshire Health Board, UKSC 11 (2015). https://www.supremecourt.uk/cases/docs/uksc-2013-0136-judgment.pdf

 

Cofiwch ysgrifennu ‘Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth’ yn llawn y tro cyntaf y mae'n ymddangos yn eich aseiniad. 
Cydnabyddiaeth gyntaf: Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB, 2018) neu (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth [CNB], 2018).

Cydnabyddiaeth ddilynol: CNB (2018) neu (CNB, 2018).

Byddai'n ymddangos unwaith yn eich rhestr o gyfeiriadau:
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. (2018). Y Cod: Safonau ymarfer proffesiynol ac ymddygiad ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. https://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/nmc-publications/nmc-code-welsh.pdf

---

Pan fo’n ddefnyddiol cynnwys yr adran o'r cod yr ydych yn cyfeirio ati, mae'r rhan sy’n trafod cyfeiriadau at godau moeseg ar wefan APA yn awgrymu y dylech osod eich cyfeiriadau yn y testun fel a ganlyn: 

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB, 2018, Adran 7.3) neu (Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth [CNB], 2018, Adran 7.3). 

Ffynhonnell eilaidd

Nid yw defnyddio ffynonellau eilaidd yn cael ei annog yn null cyfeirnodi APA ac fe'ch anogir bob amser i fynd at y ffynhonnell wreiddiol. Fodd bynnag, weithiau nid yw hyn yn bosib, oherwydd diffyg mynediad i'r ffynhonnell wreiddiol o bosib neu am nad yw'r ffynhonnell wreiddiol ar gael. Yn yr achosion hyn, byddech yn rhoi cydnabyddiaeth ac yn cyfeirnodi mewn ffordd ychydig yn wahanol, fel y nodir isod.

Cydnabod ffynhonnell eilaidd o fewn y testun

Mae cylch adlewyrchol Gibbs (1988) fel y dyfynnwyd yn Jasper (2013) yn dangos bod...
NEU
Mae cylch adlewyrchol Gibbs yn theori bwysig ym maes ymarfer myfyriol (Gibbs, 1988, fel y dyfynnwyd yn Jasper, 2013).

Cynnwys ffynhonnell eilaidd yn eich rhestr gyfeirnodi

Jasper, M. (2013). Beginning reflective practice (2il arg.). Cengage Learning.

Y llyfr hwn mewn primo

APA - FFynonellau Eilaidd

Defnyddiwch erthyglau papur newydd yn fan cychwyn i ymchwil. Nid ydynt yn cael eu hystyried yn ffynonellau academaidd. Defnyddiwch y fformat isod:

•    Cyfenwau awduron, yna blaenlythrennau.
•    Blwyddyn, mis a dyddiad cyhoeddi, mewn cromfachau.
•    Teitl yr erthygl.
•    Teitl y papur newydd, mewn print italig.
•    Rhifau'r tudalennau NEU URL, os yw yn erthygl ar-lein

Enghraifft: Erthygl papur newydd:

Duggan, C. (2022, Medi 5). Croesawu myfyrwyr cyntaf cwrs nyrsio Aberystwyth. BBC.https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/62785861

Sisley, D. (2020). Can science cure a broken heart?. The Guardian. https://www.theguardian.com/science/2020/feb/22/can-science-cure-a-broken-heart

Creu cyfeiriad at ChatGPT neu fodelau a meddalwedd AI eraill

Mae canllawiau'r Brifysgol yn nodi bod "cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel pe bai'n waith eich hun" yn fath o lên-ladrad ac, o'r herwydd, yn ymddygiad academaidd annerbyniol. Gellir dod o hyd i wybodaeth gyflawn am ganllawiau'r Brifysgol ar ymddygiad academaidd annerbyniol yma

Polisi APA ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI) mewn deunyddiau academaidd

Mae cyfarwyddyd ar gyfer defnyddio DA yn foesegol ac effeithiol ar gyfer dysgu ar gael yn ein Canllaw Llyfrgell: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell: Canllaw Myfyriwr

Nid yw'r hyn sy'n cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Twitter a Facebook, yn cael eu hystyried yn ffynonellau academaidd. Defnyddiwch nhw yn fan cychwyn i’ch ymchwil academaidd. Defnyddiwch y fformat isod:   

•    Enw defnyddiwr neu enw'r grŵp
•    Dyddiad ar ffurf blwyddyn, mis, diwrnod. Mewn cromfachau. Os nad oes dyddiad, rhowch (n.d.)
•    Teitl y post, wedi'i ddilyn gan y math o ffynhonnell mewn cromfachau [ ].
•    Wedi'i adalw o, ac yna mis, diwrnod, blwyddyn,
•    o'r URL

Enghraifft: Post Cyfryngau Cymdeithasol 

Barack Obama. (2009, Hydref 9). Humbled [diweddariad Facebook]. Wedi'i adalw Mai, 14, 2020, o http://www.facebook.com/posted.php?id=6815841748&share_id=154954250775&comments=1#s154954250775 

Fideo YouTube

University of Oxford. (2020, Tachwedd 23). Oxford University’s ‘vaccine for the world’ is effective [Fideo]. YouTube. https://www.youtube.com/watch?v=xHJ_RqeXXy0

*Cydnabyddiaeth yn-y-testun am ddyfyniad uniongyrchol “The vaccine is shown to protect against hospitalisation and severe disease” (University of Oxford, 2020, 0:18).

 

Sut ydw i'n cyfeirio at y 6C?
NHS England. (2016). Compassion in practice: Evidencing the impact. London. https://www.england.nhs.uk/wp-content/uploads/2016/05/cip-yr-3.pdf

Sut ydw i'n cyfeirio at ganllawiau National Institute for Health and Care Excellence (NICE)?
National Institute for Health and Care Excellence. (2023). Hypertension in adults: Diagnosis and management (NICE Guideline NG136). https://www.nice.org.uk/guidance/ng136

Sut ydw i'n cyfeirio at ddogfen Cymru gyfan ar gyfer asesu ymarfer a chofnodi cyrhaeddiad parhaus?

Grŵp Nyrsio a Bydwreigiaeth Cyn-gofrestru Cymru Gyfan. (2020). Dogfen Cymru gyfan ar gyfer asesu ymarfer a chofnodi cyrhaeddiad parhaus. Addysg a Gwella Iechyd Cymru. https://aagic.gig.cymru/files/unwaith-i-gymru-2020/ddogfennau/dogfen-cymru-gyfan-ar-gyfer-asesu-ymarfer-a-chofnodi-cyrhaeddiad-parhaus/

Sut ydw i'n cyfeirio at yr adroddiad Francis?

Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry. (2013). Report of the Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry: Executive summary (HC 947). The Stationery Office. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/279124/0947.pdf

Sut ydw i'n cyfeirio at yr NEWS offeryn?

Royal College of Physicians. (2017). National Early Warning Score (NEWS) 2: Standardising the assessment of acute-illness severity in the NHS. https://www.rcplondon.ac.uk/projects/outputs/national-early-warning-score-news-2

Polisi Arolygaeth Academaidd Myfyrwyr Addysg Gofal Iechyd

Cwestiynau a Holir yn Aml 9302

Gallwch ddod o hyd i’r rhain a mwy yn y llyfrgell

Chwiliwch Primo i ddod o hyd i deitlau pellach neu porwch trwy’r Casgliad Astudio Effeithiol ar Lawr F, Llyfrgell Hugh Owen