Fe welwch y bydd adegau pan na fydd yr adnodd chi angen ei ddefnyddio ar gael o gasgliadau'r llyfrgell. Yn y senario hwn mae nifer o opsiynau ar gael i chi i geisio cael gafael ar y deunyddiau sydd eu hangen arnoch chi:
Os yw pob copi ffisegol o'r eitem sydd ei angen arnoch ar fenthyg, rhowch gais amdano yn Primo. Gallwch hefyd wneud cais i fenthyg cyfnodolyn dros nos.
Cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am lyfr neu gyfnodolyn: https://faqs.aber.ac.uk/en/814
Mae'r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth digido penodau ar gais i fyfyrwyr a staff i gefnogi eich astudiaethau ac ymchwil.
Darganfyddwch fwy a chwblhewch y ffurflen gais ar-lein yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/digitisation/chapterdigitisation/
Mae gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Fel llyfrgell adnau cyfreithiol, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw dros 7 miliwn o lyfrau sydd ar gael i’w defnyddio. Gallwch chwilio’r catalog llyfrgell ar-lein i ddod o hyd i gasgliadau. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar dudalen Adnoddau LlGC.
Os na allwch ddod o hyd i lyfr yr ydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano drwy’r ymgyrch Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig).
Bydd pob llyfr a archebir trwy'r ymgyrch yn cael ei roi yng nghasgliad y llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen Mwy o Lyfrau.
Mae SCONUL Access yn gynllun sy’n galluogi i nifer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion fenthyca neu ddefnyddio llyfrau a chyfnodolion mewn llyfrgelloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun.
Mae'r cynllun yn cwmpasu'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd prifysgolion y DU ac Iwerddon.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, pwy sy’n gymwys, a sut mae’n gweithio, ewch i: https://www.sconul.ac.uk/sconul-access