Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell: Canllaw Myfyriwr: Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?

Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?

Mae deallusrwydd artiffisial, y cyfeirir ato yn Saesneg fel AI (artificial intelligence) yn faes cyfrifiadureg sy'n canolbwyntio ar greu peiriannau sy'n ymddangos yn ddeallus a sy’n gallu cyflawni tasgau sydd wedi bod angen deallusrwydd dynol cyn hyn. Mae deallusrwydd artiffisial yn golygu datblygu algorithmau a systemau sy’n dysgu o ddata, adnabod patrymau, a gwneud penderfyniadau neu ragfynegiadau ar sail yr algorithmau neu'r systemau hynny.

Mae deallusrwydd artiffisial yn rhoi’r gallu i beiriannau i ddeall, rhesymu a rhyngweithio â'r byd mewn ffyrdd sy'n efelychu gwybyddiaeth ddynol. Mae enghreifftiau o gymwysiadau deallusrwydd artiffisial y gallech fod wedi dod ar eu traws mewn bywyd bob dydd yn cynnwys cynorthwyydd sgwrsio, adnabod delweddau, cerbydau awtonomaidd a systemau argymell (ar gyfer ffilmiau, cerddoriaeth neu siopa). Mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i chwyldroi gwahanol ddiwydiannau, gwella effeithlonrwydd a datrys problemau cymhleth. Fodd bynnag, mae’n codi ystyriaethau moesegol pwysig ynghylch preifatrwydd, tuedd, a'r effaith ar swyddi a chymdeithas.

Bydd y Canllaw Llyfrgell hwn yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Byddwn yn edrych ar sut y gall myfyrwyr ei ddefnyddio'n effeithiol er mwyn sicrhau’r profiad gorau wrth ddefnyddio’r llyfrgell. Bydd y canllaw hefyd yn mynd i'r afael â'r cyfyngiadau yn ogystal â'r ystyriaethau moesegol cysylltiedig â'i ddefnyddio.

Mae'r wybodaeth yn y canllaw hwn yn gyfredol ym mis Gorffennaf 2023.

Beth yw Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol?

Mae Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (ChatGPT, Bard, Dall-E, ac ati) yn dechnoleg gymharol newydd sy'n canolbwyntio ar greu cynnwys newydd a gwreiddiol, fel delweddau, cerddoriaeth, neu destun gyda deallusrwydd artiffisial.

Yn wahanol i systemau deallusrwydd artiffisial traddodiadol sy'n dibynnu ar reolau diffiniedig, mae modelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn dysgu cynhyrchu cynnwys o symiau enfawr o ddata.

Er gwaethaf ei enw, nid yw Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn ddeallus, mae'n gweithio'n debycach i destun rhagfynegol. Trwy ddeall patrymau ac arddulliau o enghreifftiau presennol, gall system fel ChatGPT ddynwared a chynhyrchu cynnwys newydd sy'n ymddangos yn hynod realistig.
 

Nid ChatGPT yw'r unig dechnoleg o'r fath, mae adnoddau deallusrwydd artiffisial eraill ar gael.

Er bod ChatGPT yn cael ei gydnabod yn eang fel un o'r adnoddau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mwyaf poblogaidd, mae Bard a Dall-E wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau hefyd. Fodd bynnag, mae'n bwysig crybwyll bod amrywiaeth gynyddol o opsiynau eraill yn dod i'r amlwg yn y maes.

Os ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am yr opsiynau deallusrwydd artiffisial hyn, mae Futurepedia yn gyfeiriadur cynhwysfawr sy'n dangos yr amrywiaeth helaeth o adnodau deallusrwydd artiffisial sydd ar gael ar hyn o bryd.
 

Deallusrwydd Artiffisial yn y Newyddion

Loading ...

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial: Ffeithiau Allweddol

Rhaid i chi ddilyn y canllawiau diweddaraf ar ddeallusrwydd artiffisial a ddarperir gan eich adran.

Os ydych chi'n defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwaith a asesir, byddwch yn eglur a gonest a chydnabyddwch eich bod wedi'i ddefnyddio.

Gallai'r allbwn a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial:

  • Fod wedi dyddio.
  • Fod yn anghywir.
  • Fod yn bleidiol.

Os ydych chi'n defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn unrhyw ran o'ch gwaith a asesir, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio popeth a gynhyrchir gan yr adnodd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a gynhyrchir yn gyfredol ac yn gywir.

Oherwydd pryderon preifatrwydd a diogelwch, ni fyddem yn argymell rhoi data personol mewn systemau deallusrwydd artiffisial.

Mae maes deallusrwydd artiffisial yn datblygu'n gyflym iawn a gall y canllawiau presennol newid. 

Yn y Canllaw hwn byddwn yn edrych ar yr agweddau hyn ac agweddau eraill ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yng nghyd-destun y llyfrgell.

Moeseg a Deallusrwydd Artiffisial

Mae defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn codi nifer o faterion moesegol. Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i:

Tegwch Addysgol: Gallai deallusrwydd artiffisial ehangu'r bwlch rhwng y myfyrwyr hynny y mae technoleg ar gael iddynt a'r rhai nad yw technoleg ar gael iddynt. Gallai’r myfyrwyr nad yw adnoddau deallusrwydd artiffisial ar gael iddynt golli allan ar fanteision profiadau dysgu sy'n cael eu gwella gan y dechnoleg hon.

Preifatrwydd a Diogelwch Data Personol: Gall rhoi data personol mewn systemau deallusrwydd artiffisial arwain at darfu ar breifatrwydd os yw'r data'n cael ei gam-drin, ei gamddefnyddio neu ei ddefnyddio gan unigolion heb awdurdod.

Uniondeb Academaidd: Gallai defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddatrys problemau neu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer aseiniadau danseilio uniondeb academaidd.

Dibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial: Gall gorddibyniaeth ar ddeallusrwydd artiffisial er mwyn dysgu a datrys problemau effeithio ar ddatblygiad meddwl beirniadol a gall olygu bod myfyrwyr yn osgoi'r broses o ddysgu. 

Pryderon Hinsawdd: Mae cynhyrchu caledwedd deallusrwydd artiffisial yn golygu bod angen cloddio deunyddiau prin sy'n aml yn achosi diraddiad tirwedd, llygredd dŵr a cholli bioamrywiaeth. Ar ben y prosesau ynni-ddwys sy'n gysylltiedig â rhedeg a hyfforddi systemau deallusrwydd artiffisial, mae hyn yn golygu bod gan y diwydiant deallusrwydd artiffisial ôl troed amgylcheddol sylweddol.
 

Effaith Deallusrwydd Artiffisial ar Gyflogadwyedd

Disgwylir y bydd y farchnad swyddi’n cael ei thrawsnewid yn sylweddol oherwydd dylanwad deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol agos. O ganlyniad, gallai effaith posib deallusrwydd artiffisial ar amrywiol alwedigaethau ddylanwadu ar ddewisiadau gyrfa myfyrwyr.

Er y gall awtomatiaeth deallusrwydd artiffisial ddisodli rhai tasgau arferol, gall hefyd greu cyfleoedd newydd. Gallai myfyrwyr sy'n dysgu sgiliau cysylltiedig â deallusrwyd artiffisial, megis dadansoddi data, dysgu peirianyddol a rhaglennu, fod â mantais gystadleuol. Gall deallusrwydd artiffisial ehangu llwybrau gyrfa mewn meysydd fel gwyddor data, peirianneg deallusrwydd artiffisial a marchnata digidol. Nid yn y gwyddorau yn unig y bydd cyfleoedd yn codi: effeithiau cadarnhaol posib ar yrfaoedd y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yw gwell galluoedd ymchwil, cymorth iaith a chyfieithu, creu cynnwys a dadansoddi data.

Bydd y myfyrwyr sy'n addasu i farchnad swyddi sy’n cael ei gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial ac sydd â chyfuniad o hyfedredd technegol, meddwl beirniadol a chreadigrwydd mewn sefyllfa dda i lwyddo yng ngweithlu'r dyfodol.
 

Ble mae cymorth ar gael?

Mae'n hanfodol eich bod yn dilyn yr holl ganllawiau cyfredol a ddarperir gan eich adran ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. 

Os hoffech chi wybod sut y gallwch ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell, dewch i'n gweld yn:

  •   Y ddesg ymholiadau ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen.
  •   Y ddesg ymholiadau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Neu cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc.

Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn: llyfrgellwyr@aber.ac.uk

Am fwy o wybodaeth gyffredinol am y llyfrgell, gweler ein Canllawiau.
 

 

Canllawiau'r Brifysgol ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Mae canllawiau'r Brifysgol yn nodi bod "cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel pe bai'n waith eich hun" yn fath o lên-ladrad ac, o'r herwydd, yn ymddygiad academaidd annerbyniol. Gellir dod o hyd i wybodaeth gyflawn am ganllawiau'r Brifysgol ar ymddygiad academaidd annerbyniol yma. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfeirnodi a llên-ladrad yn ein Canllaw LibGuides ar Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad.

Canllawiau Adrannol ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Canllawiau Undeb y Myfyrwyr ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Dyfodol Deallusrwydd Artiffisial

Mae goblygiadau eang ar draws llawer o sectorau i ddeallusrwydd artiffisial. Ar gyfer prifysgolion, gall datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol gynnwys:

  • Bydd adnoddau addysgol a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial, megis systemau tiwtora deallus a llwyfannau dysgu ymaddasol, yn gallu personoli'r profiad dysgu a darparu ar gyfer anghenion a dewisiadau unigol myfyrwyr.
  • Gall deallusrwydd artiffisial gyflymu prosesau ymchwil trwy awtomeiddio dadansoddi data, adolygiadau llenyddiaeth ac adnabod patrymau. Gall ymchwilwyr ddefnyddio algorithmau deallusrwydd artiffisial i brosesu symiau enfawr o wybodaeth, adnabod tueddiadau a chynhyrchu mewnwelediad er mwyn torri tir newydd. 
  • Gall technolegau deallusrwydd artiffisial helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol drwy roi cymorth i fyfyrwyr ag anableddau. Er enghraifft, gall gwasanaethau trawsgrifio a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial gynorthwyo myfyrwyr sydd â nam ar eu clyw, a gall y prosesu iaith naturiol gynorthwyo myfyrwyr sy'n cael anawsterau darllen.

 

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau