Mae cyfnodolion yn darparu ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd.
Sut ydw i'n dod o hyd i erthyglau testun llawn yn Erthyglau Primo?
Mae cyfnodolyn yn gyhoeddiad sy'n canolbwyntio ar faes pwnc penodol a all gynnwys erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, megis wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae cyfres o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân).
Unrhyw eitem a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn sy'n cynnwys papurau byr ar bynciau penodol. Gellir dod o hyd iddynt ar ffurf print, ar-lein neu'r ddau.
Pam defnyddio erthyglau?
Mae erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid wedi cael eu hadolygu a’u derbyn gan arbenigwyr yn eu maes cyn cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfnodolion yn cadw eu henw da a bod ansawdd yr ymchwil yn cael ei gynnal.
Defnyddiwch yr hidlydd yn Primo i chwilio yn ôl 'Wedi’u Hadolygu gan Gymheiriaid'
Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i ystod eang o e-gylchgronau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe adnoddau electronig.
Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws?
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.
LibKey Nomad - mynediad un clic at erthyglau y cyfeirir atynt ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio
Estyniad porwr y gellir ei lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni yn awtomatig at erthyglau yn y cyfnodolion mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio iddynt. Gwybodaeth bellach: https://wordpress.aber.ac.uk/librarian/?p=823&lang=cy
Mae’r Ap Complete Anatomy gan Elsevier yn dechnoleg 3D datblygedig sy'n darparu dealltwriaeth drylwyr o'r corff dynol. Mae'r ap arloesol hwn yn cynnwys nodweddion megis atlas 3D o’r corff dynol a dysgu rhyngweithiol i'ch helpu i weld a chofio cysyniadau allweddol. Mae'r ap ar gael ar ddyfeisiau a llwyfannau lluosog, gan gynnwys Apple, Android a Windows.
I gael mynediad i'r ap
Lawrlwythwch yr ap Complete Anatomy a defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost Prifysgol i greu cyfrif.
Dolenni i lawrlwytho'r ap ar gyfer iPad, Mac, iPhone, windows, Android
Y cod ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yw: FKLHRC2GQYEH
Os ydych yn aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, e-bostiwch sia1@aber.ac.uk / llyfrgellwyr@aber.ac.uk ar gyfer y cod trwydded addysgwr.
Tiwtorialau a fideos
Complete Anatomy - Dysgwch y pethau sylfaenol mewn eiliadau
Tiwtorialau ar yr holl Nodweddion/Swyddogaethau
Llwyfan
3D4Medical gan Elsevier
Rhagor o gymorth
Canolfan Gymorth Complete Anatomy
Cysylltwch â Simone sia1@aber.ac.uk / librarians@aber.ac.uk am gymorth.
Os dymunwch, gallwch hefyd chwilio drwy gronfeydd data dyfyniadau (sy’n cynnwys manylion am ymchwil ac erthyglau) ac adnoddau yn uniongyrchol. Ar gyfer Addysg Gofal Iechyd, y prif adnoddau yw:
CINAHL Plus with Full Text Mae CINAHL yn darparu cynnwys eang gan gynnwys dros 50 o arbenigeddau nyrsio, patholeg lleferydd ac iaith, maeth, iechyd cyffredinol a meddygaeth.
MEDLINE with Full Text Mae Medline yn darparu gwybodaeth feddygol awdurdodol ar feddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, milfeddygaeth, y system gofal iechyd, gwyddorau cyn-glinigol a llawer mwy. Mae MEDLINE yn defnyddio mynegeio MeSH (Penawdau Pwnc Meddygol) gan ddefnyddio hierarchaeth coeden, is-benawdau a galluoedd 'ffrwydro' i chwilio dyfyniadau o dros 5,400 o gyfnodolion biofeddygol cyfredol.
Biomedical & Life Sciences Collection Mae'r casgliad hwn yn rhoi cyfle i wrando ar ddarlithoedd amlgyfrwng a gyflwynir gan arbenigwyr byd o'r maes academaidd a'r diwydiant fferyllol.
PubMed Mae'n cynnwys mwy na 26 miliwn o gyfeiriadau ar gyfer llenyddiaeth fiofeddygol o MEDLINE, cyfnodolion gwyddor bywyd, a llyfrau ar-lein.
HMIC Health Management Information Consortium. Cynhyrchir HMIC gan wasanaethau llyfrgell Adran Iechyd y DU a Chronfa King's. Mae cronfa ddata HMIC yn ymdrin â chyhoeddiadau swyddogol, erthyglau cyfnodolion a llenyddiaeth lwyd sy'n ymwneud â rheoli iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys rheoli'r GIG.
British Nursing Database Cronfa ddata lyfryddol flaenllaw sy'n cefnogi'r arfer, addysg ac ymchwil ar gyfer nyrsys, bydwragedd a darparwyr iechyd yn y DU a'r gymuned nyrsio ehangach. Mae'r gronfa ddata lawn hon yn darparu crynodebau a mynegai ar gyfer cannoedd o deitlau, sef testunau a gyhoeddwyd ers 1993. Mae'r llenyddiaeth yn canolbwyntio ar deitlau a gyhoeddwyd yn y DU, Awstralia a Chanada, ynghyd â detholiad o deitlau nyrsio rhyngwladol pwysig.
Applied Social Sciences Index & Abstracts (ASSIA)
Manteision chwilio’r cronfeydd data hyn yn uniongyrchol:
Anfanteision chwilio’r cronfeydd data hyn yn uniongyrchol: