Mae Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth eisiau clywed gennych!
Arolwg Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth yw eich cyfle i rannu eich barn am ein gwasanaethau ac awgrymu ffyrdd y gallwn eu gwneud hyd yn oed yn well. Hefyd, drwy gymryd rhan, gallech ennill un o ddwy daleb £50 am ddim ond 10 munud o'ch amser
Peidiwch â cholli'r cyfle i leisio'ch barn - llenwch yr arolwg nawr: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/aber/gg24
Bydd yr arolwg ar gael o'r 1af - 30ain Tachwedd 2024
Helo! Fy enw i yw Simone Anthony, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Addysg Gofal Iechyd. Gall myfyrwyr wneud hyd at tri apwyntiad bob blwyddyn academaidd.
Os nad wyf ar gael, cliciwch yma i wneud apwyntiad gydag aelod arall o dîm y llyfrgell neu ebost llyfrgellwyr@aber.ac.uk
*Rwy’n gweithio’n rhan-amser: Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau 0900-1300, Mercher 0900-1515 (Dydw i ddim yn gweithio dydd Gwener)
Rwy'n cynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb galw heibio (Ar y rhan fwyaf o ddyddiau Llun yn ystod y tymor).
0900 - 0950 dydd Llun Gwendolen Rees, 1.31.
Sesiynau ychwanegol Dydd Iau 17eg a 24ain Hydref 2024 0900 - 1000 GR 1.31
1000 - 1200 dydd Llun Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen
Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau.
Fel arall, gallwch e-bostio eich cwestiynau ataf: sia1@aber.ac.uk / llyfrgellwyr@aber.ac.uk
Tanysgrifiwch i Blog y Llyfrgellwyr i dderbyn newyddion am weithgareddau'r Llyfrgellwyr Pwnc
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael drwy ymweld â Lefel D, Llyfgell Hugh Owen, sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/