Mae'r dudalen hon yn rhoi enghreifftiau o ffynonellau sy'n cael eu cydnabod yn gyffredin. Cyfeiriwch at ganllaw APA yr adran (APA = Cymdeithas Seicolegol America) yn:
APA 7fed argraffiad apastyle.apa.org/
Mae hwn yn ddull sy'n defnyddio fformat awdur-dyddiad ar gyfer cydnabyddiaethau yn y testun ac yna'n rhestru manylion llawn y ffynhonnell yn nhrefn yr wyddor yn y rhestr gyfeirnodi.
Enghreifftiau o gydnabyddiaethau yn-y-testun:
Gweler y tabiau canlynol i gael cyngor ynglŷn â chreu rhestr gyfeirnodi.
Creu'r rhestr gyfeirnodi:
Wrth gyfeirnodi llyfr dilynwch y drefn hon:
• Awduron, cyfenw ac yna blaenlythrennau
• Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau
• Teitl, mewn print italig
• Argraffiad y llyfr (os nad yr argraffiad cyntaf)
• Cyhoeddwr
Enghraifft: Llyfr, un awdur:
Rhestr Gyfeirnodi:
Smyth, T.R. (2004). The principles of writing in Psychology. Palgrave MacMillan.
Wrth gyfeirnodi e-lyfr dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: e-lyfr
Loschiavo, J. (2015). Fast Facts for the School Nurse: School Nursing in a Nutshell (2nd ed.). Springer. https://doi.org/10.1891/9780826128775
Wrth gyfeirnodi pennod o lyfr dilynwch y drefn hon:
• Awdur y bennod, cyfenw yn gyntaf ac yna llythrennau cyntaf.
• Blwyddyn cyhoeddi
• Teitl y bennod
• Yn + awduron y llyfr cyfan (Goln.)
• Teitl y llyfr
• Tudalennau'r bennod
• Cyhoeddwr
Enghraifft: pennod o lyfr
Smyth, M. J., & Filipkowski, B.K. (2010). Coping with stress. Yn D. French, K. Vadhara, A.A. Kaptein, & J. Weinman (Goln.), Health Psychology (tt. 271-283). Blackwell Publishing.
Wrth gyfeirnodi erthygl dilynwch y drefn hon:
• Awduron, cyfenwau ac yna blaenlythrennau.
• Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau.
• Teitl yr erthygl.
• Teitl y cyfnodolyn, mewn print italig.
• Cyfrol y cyfnodolyn.
• Rhifyn y cyfnodolyn, mewn cromfachau.
• Ystod tudalennau'r erthygl.
• DOI yr erthygl, os yw ar gael.
Enghraifft: Erthygl mewn cyfnodolyn
Beaman, P.C., & Holt, J.N. (2007). Reverberant auditory environments: the effects of multiple echoes on distraction by 'irrelevant' speech. Applied Cognitive psychology, 21(8), 1077-1090. doi: https://doi.org/10.1002/acp.1315
Wrth gyfeirnodi gwe-ddalen dilynwch y drefn hon:
• Cyfenw'r awdur ac yna blaenlythrennau NEU enw'r sefydliad. Teitl y we-ddalen os nad oes awdur.
• Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau).
• Teitl.
• URL.
Enghraifft: gwe-ddalen
Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). (2019). WHO updates global guidance on medicines and diagnostic tests to address health challenges, prioritise highly effective therapeutics, and improve affordable access. https://www.who.int/news/item/09-07-2019-who-updates-global-guidance-on-medicines-and-diagnostic-tests-to-address-health-challenges-prioritize-highly-effective-therapeutics-and-improve-affordable-access
Gall dogfen ar y we gynnwys adroddiadau llywodraeth neu ddogfennau polisi. Maent yn cael eu cyfeirnodi'n wahanol i dudalennau gwe:
• Awduron, yn cynnwys blaenlythrennau.
• Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau.
• Teitl, mewn print italig.
• URL
Enghraifft: Dogfen ar y we
Howe, C., Mercer, N. (2007). Children's social development, peer interaction and classroom learning. https://cprtrust.org.uk/wp-content/uploads/2014/06/research-survey-2-1b.pdf
Defnyddiwch erthyglau papur newydd yn fan cychwyn i ymchwil. Nid ydynt yn cael eu hystyried yn ffynonellau academaidd. Defnyddiwch y fformat isod:
• Cyfenwau awduron, yna blaenlythrennau.
• Blwyddyn, mis a dyddiad cyhoeddi, mewn cromfachau.
• Teitl yr erthygl.
• Teitl y papur newydd, mewn print italig.
• Rhifau'r tudalennau NEU URL, os yw yn erthygl ar-lein
Enghraifft: Erthygl papur newydd:
Sisley, D. (2020, Chwef 22). Can science cure a broken heart?. The Guardian. https://www.theguardian.com/science/2020/feb/22/can-science-cure-a-broken-heart
Nid yw'r hyn sy'n cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Twitter a Facebook, yn cael eu hystyried yn ffynonellau academaidd. Defnyddiwch nhw yn fan cychwyn i’ch ymchwil academaidd. Defnyddiwch y fformat isod:
• Enw defnyddiwr neu enw'r grŵp
• Dyddiad ar ffurf blwyddyn, mis, diwrnod. Mewn cromfachau. Os nad oes dyddiad, rhowch (n.d.)
• Teitl y post, wedi'i ddilyn gan y math o ffynhonnell mewn cromfachau [ ].
• Wedi'i adalw o, ac yna mis, diwrnod, blwyddyn,
• o'r URL
Enghraifft: Post Cyfryngau Cymdeithasol
Barack Obama. (2009, Hydref 9). Humbled [diweddariad Facebook]. Wedi'i adalw Mai, 14, 2020, o http://www.facebook.com/posted.php?id=6815841748&share_id=154954250775&comments=1#s154954250775
Gweler canllaw cyfeirnodi llawn yr adran i'r 7ed APA yn:
Mae canllawiau'r Brifysgol yn nodi bod "cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel pe bai'n waith eich hun" yn fath o lên-ladrad ac, o'r herwydd,
yn ymddygiad academaidd annerbyniol. Gellir dod o hyd i wybodaeth gyflawn am ganllawiau'r Brifysgol ar ymddygiad academaidd annerbyniol yma.
Mae cyfarwyddyd ar gyfer defnyddio DA yn foesegol ac effeithiol ar gyfer dysgu ar gael yn ein Canllaw Llyfrgell: DA a'r Llyfrgell
Safle cynhwysfawr gyda chyngor ar ddyfynnu o fewn y testun ac atebion cyflym ar sut i fformatio gwahanol gyfeiriadau.
Mae EndNote yn gymhwysiad cyfeirnodi llyfryddiaethol ar gyfer: