Gellir dod o hyd i’n holl e-lyfrau ar Primo, neu efallai y byddai’n well gennych bori trwy’r teitlau 'Seicoleg’ a gynigir gan un o’n prif ddarparwyr e-lyfrau, ProQuest Ebook Central (dros 20,000 o deitlau busnes ac economeg).
Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig (llyfrau a chyfnodolion) ar gyfer seicoleg yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lawr F (llawr uchaf), er bod rhai pynciau i’w cael ar Lawr E fel y nodir isod:
BF1-990 Seicoleg
BF173-175.5 Dadansoddiad seicolegol
BF201 Seicoleg dirnadaeth
BF231-299 Ymdeimlad. Hydeimlad
BF309-499 Ymwybyddiaeth. Dirnadaeth
BF511-593 Teimladau. Emosiwn
BF636-637 Seicoleg gymhwysol
BF712-724.85 Seicoleg ddatblygiadol
GV706.4 Seicoleg chwaraeon
H61-HA32 Dulliau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol
HM1033 Seicoleg gymdeithasol
HQ767-781 Datblygiad plentyndod
ML3830 Seicoleg cerddoriaeth
QP360 Niwroseicoleg / Seicoleg fiolegol [Lefel E]
R726.7 Seicoleg Iechyd [Lefel E]