
Mae Deallusrwydd Artiffisial (DA neu AI), yn faes o gyfrifiadureg sy’n canolbwyntio ar algorithmau a systemau sy'n gallu dysgu o ddata, adnabod patrymau, a gwneud penderfyniadau neu ragfynegi ar sail yr algorithmau neu'r systemau hynny.
Dyma grynodeb o sut mae DA yn cael ei ddefnyddio ym maes Addysg Uwch, gyda ffocws ar lyfrgelloedd.
Defnydd cyffredinol mewn Addysg Uwch:
Cymorth astudio: Cynorthwywyr ymchwil a sgwrsbotiau yn helpu i ateb cwestiynau ac esbonio cysyniadau.
Cymorth ysgrifennu: Mae offer DA yn cynorthwyo gyda gramadeg, sillafu a strwythuro.
Rheoli amser: Mae cynllunwyr deallus ac atgoffwyr yn helpu myfyrwyr i drefnu amserlenni astudio.
Hygyrchedd: Mae offer DA yn cefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (e.e. lleferydd-i-destun, darllenwyr sgrin).
Yn y Llyfrgell:
Hwyluso ymchwil: Mae offer DA yn cynorthwyo gyda dadansoddi data, adolygiadau llenyddiaeth ac ysgrifennu.
Chwilio callach: Mae DA yn gwneud dod o hyd i lyfrau, erthyglau ac adnoddau yn haws.
Cymorth 24/7: Mae sgwrsbotiau a pheiriannau chwilio DA yn helpu defnyddwyr i ganfod atebion i'w cwestiynau unrhyw bryd.
Argymhellion adnoddau: Mae DA yn awgrymu geiriau allweddol defnyddiol, awgrymiadau chwilio neu hyd yn oed deunydd darllen yn seiliedig ar eich cwrs neu ddiddordebau.
Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio DA?

Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc am gymorth a chyngor ar ddod o hyd i adnoddau priodol ar gyfer eich astudiaethau, cloriannu ffynonellau a chyfeirnodi
