Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Seicoleg: Erthyglau a chronfeydd data allweddol

Cronfeydd data allweddol

Os dymunwch, gallwch hefyd chwilio drwy gronfeydd data dyfyniadau (sy’n cynnwys manylion am ymchwil ac erthyglau) ac adnoddau yn uniongyrchol. Ar gyfer seicoleg, y prif adnoddau yw:

  • PsycARTICLES - mae'r rhain yn rhoi dolenni uniongyrchol i'r testun llawn ichi gael ei lawrlwytho. Fodd bynnag, dim ond i gylchgronau a gyhoeddir gan yr APA y mae PsycArticles yn rhoi mynediad, ac, felly, mae'r ystod o bynciau sy ar gael yn gyfyng.
  • EBSCO Business Source Complete
  • PTSDpubs
  • PubMed
  • ScienceDirect - ffynhonnell gwybodaeth ymchwil gwyddonol, technegol a meddygol.
  • Scopus

Manteision chwilio’r cronfeydd data hyn yn uniongyrchol:

  • llai o ganlyniadau, efallai, ond byddant yn fwy perthnasol;
  • mae’n ddefnyddiol i gael profiad o chwilio ffynonellau yn uniongyrchol.

Anfanteision chwilio’r cronfeydd data hyn yn uniongyrchol:

  • maent wedi’u mynegeio yn Primo Central hefyd felly byddai eu canlyniadau’n ymddangos yno beth bynnag
  • mae eu chwilio’n uniongyrchol yn golygu llai o ganlyniadau na chwilio Primo Central;
  • ni fydd canlyniadau bob amser yn arwain at erthygl llawn.

 

American Psychological Association (APA)
Mae’r APA yn cynrychioli seicoleg yn UDA a hon yw’r gymdeithas fwyaf o seicolegwyr drwy’r byd.

Annual Reviews
Casgliad o adolygiadau beirniadol a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr blaenllaw.

British Psychological Society
Yn cynnwys PsychSource i aelodau BPS.

The Psychologist
Ar gael mewn print yn y Llyfrgell ac ar-lein trwy gyfrwng eu harchif.

Scientific American​
Mynediad i’r cylchgrawn sydd wedi cael ei gyhoeddi’n barhaus am y cyfnod hwyaf yn UDA. Mae gan y cylchgrawn erthyglau a gyhoeddwyd gan dros 150 o wyddonwyr sydd wedi ennill gwobr Nobel. Ceir mynediad i erthyglau sy’n mynd yn ôl i 1845.

Scientific American Mind 
Cylchgrawn gan Scientific American sy’n canolbwyntio ar Seicoleg.

All about psychology Wedi sgwennu a diweddaru'n rheolaidd gan ddarlithydd yn seicoleg, gath y gwefan ei lansio yn Fawrth 2008, wedi cynllunio i helpu unrhyw sy'n edrych am wybodaeth seicoleg.

Association for Applied Sport Psychology (AASP) Mae'r AASP yn sefydliad rhyngwladol, amlddisgyblaethol a broffesiynol sydd yn cynnig ardystio gweithiwyr proffesiynol cymwys sydd yn ymarfer sbort, ymarfer corff, a seicoleg iechyd.

Association for Psychological Science
Sefydliad rhyngwladol sy’n ymroddedig i hyrwyddo seicoleg wyddonol.

BPS Research Digest Adroddiadau ar yr ymchwil seicoleg ddiweddaraf. Hefyd glecs seic a sylwadau.

Experimental Psychology Society
Mae'r 'Experimental Psychology Society' am yr hyrwyddo ymchwiliad gwyddonol tŷ fewn i'r maes seicoleg a phynciau cytras.

International Association for Research in Economic Psychology
Yr 'International Association for Research in Economic Psychology' (IAREP) yw'r man cyfarfod naturus am bawb sydd â diddordeb yn y meysydd lle mae seicoleg ac economeg yn croestorri. 

Psych Central
Rhwydwaith iechyd meddwl a seicoleg. Mae’n cynnwys golwg cyffredinol ar amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.

Simply Psychology
Canllaw myfyrwyr i seicoleg, wedi’i anelu’n bennaf at ddisgyblion Safon Uwch.

FAQ - Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo

Erthyglau Cyfnodolion

Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.

Beth mae adolygu gan gymheiriaid yn ei olygu?

 

Mae erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid wedi cael eu hadolygu a’u derbyn gan arbenigwyr yn eu maes cyn cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfnodolion yn cadw eu henw da a bod ansawdd yr ymchwil yn cael ei gynnal.

Defnyddiwch yr hidlydd yn Primo i chwilio yn ôl 'Wedi’u Hadolygu gan Gymheiriaid'.

Adnoddau Mynediad Agored

Cewch hyd i ddeunydd academaidd Mynediad Agored a'i ddefnyddio trwy Primo, catalog llyfrgell y Brifysgol, a Phorth Ymchwil Aberystwyth. 
Mae swm cynyddol o ddeunydd academaidd hefyd yn cael ei roi ar y rhyngrwyd fel deunydd Mynediad Agored.  Mae hyn yn golygu nad yw wedi'i guddio tu ôl i wal dâl a'i fod yn ar gael i unrhyw un.  Weithiau mae'r dogfennau hyn yn fersiynau sydd â'r un cynnwys â fersiwn derfynol a gyhoeddwyd ond fe'u gelwir yn ôl-argraffiadau neu'n Llawysgrifau sy'n cael eu Derbyn gan Awduron.  Weithiau maent yn fersiynau terfynol cyhoeddedig.

Nid yw'n hawdd dod o hyd i ddeunydd o'r fath bob amser felly mae llawer o offer a gwefannau ar gael a all helpu myfyrwyr ac ymchwilwyr i ddod o hyd i erthyglau, llyfrau a chyfnodolion sydd, yn fwriadol ac yn gyfreithiol, wedi'u cyhoeddi fel adnoddau Mynediad Agored.  Fe'u rhestrir ar y tabiau canlynol. Mae rhai wedi'u cynnwys ar system y Brifysgol, mae'n bosib bod angen ychwanegu eraill fel estyniadau i'r porwr.  Nid yw pob un yn gweithio ar bob porwr. 
Gellir dod o hyd i gynnyrch ymchwil Prifysgol Aberystwyth hefyd trwy'r adnoddau a'r gwefannau hyn.