Helo! Fy enw i yw Sarah Gwenlan, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Seicoleg.
Gallaf eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.
Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.
Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau. llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu i archebu apwyntiad ar-lein gyda'ch Llyfrgellydd.
Rwy'n cynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb galw heibio Llyfrgell:
(yn ystod tymor yn unig)
Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil.
Fel arall, gallwch anfon eich cwestiynau ataf trwy e-bost neu trefnwch apwyntiad i gwrdd ar-lein drwy Teams neu wyneb-yn-wyneb:
Ystyrir y teitlau a restrir yn y ddolen uchod yn destunau hanfodol ar gyfer eich blwyddyn gyntaf a’r tu hwnt i hynny. Chwiliwch ar Primo i ganfod testunau eraill, a phorwch drwy’r Casgliad Astudio Effeithiol.