Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Addysg: TAR

Casgliadau Prifysgol Aberystwyth

Casgliadau

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.

Casgliad TAR

Casgliad o adnoddau i fyfyrwyr TAR, i'w hadnabod trwy chwilio am label gwyrdd ar y meingefn. Yn ystod cyfnodau ymarfergol gall myfyrwyr TAR fenthyg y llyfrau hyn am gyfnod cyfan y lleoliad. Adnoddau i'w benthyca am bythefnos, tridiau a chyfnod byr yw'r holl adnoddau eraill.

Defnyddiwch Primo primo.aber.ac.uk i chwilio trwy'r catalog llyfrgell ar-lein, i reoli eich benthyciadau llyfrgell ac i ddarganfod e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd-data. 

Adnoddau Cymraeg ar gyfer Addysg

Gwerddon, cyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg. (Mae rhifyn 26 am y Blynyddoedd Cynnar)
Cylchgrawn Addysg Cymru
 
Mae’r rhain yn adnoddau defnyddiol hefyd:

Casgliad Llên Plant 

Casgliad Llên Plant 
Dewch i archwilio’r casgliad Llên Plant, sydd wedi’i leoli ar Lefel F, nod dosbarth PZ. Mae gennym ddetholiad da o ffuglen i blant, yn amrywio o lyfrau lluniau a llenyddiaeth gyfoes i blant i ffuglen i oedolion ifanc. Bydd yn arbennig o ddefnyddiol i chi os ydych yn astudio TAR neu Astudiaethau Plentyndod/Addysg.

Teaching Times

Adnodd Teaching Times 

Mae Teaching Times yn cynnwys dewis eang o erthyglau ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf ym meysydd addysgu, dysgu, ac arweinyddiaeth. Hefyd mae ganddo fanc gwybodaeth ac adnoddau hyblyg ar gyfer stafell ddosbarth - adnoddau y gallwch eu teilwra i’ch rhwydwaith penodol eich hun.

I agor Teaching Times, chwiliwch amdano yn Primo (primo.aber.ac.uk), neu trwy: https://www.teachingtimes.com/. Bydd angen ichi fewngofnodi trwy’r Sefydliad, gweler y cyfarwyddiadau yn y ddogfen fer a atodwyd. Gallwch hefyd greu cyfrif personol, ond does dim angen gwneud hynny i weld y testun cyflawn.

Mae’r adnodd hwn yn disodli Siren Films, gan na wnaed llawer o ddefnydd o hwnnw. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu sylw cofiwch roi gwybod i mi.

Times Educational Supplement

Times Educational Supplement (TES)
Mae gennym hawl ddigyfyniad i holl gynnwys cylchgrawn y TES sydd ar gael i danysgrifwyr ar-lein: cewch ddarllen y newyddion diweddaraf; dadansoddiadau manwl; canllawiau dysgu sy'n arwain y byd, adolygiadau ymchwil ac ymchwiliadau. Byddwch hefyd yn cael gwylio fideos a gwrando ar bodlediadau. 

I gael defnyddio’r adnodd y bydd angen i chi greu’ch proffil eich hun yn: tes.com gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost Prifysgol Aberystwyth (os oes gennych gyfrif eisoes gyda chyfeiriad ebost personol, bydd angen i chi greu proffil newydd o hyd gyda'ch ebost Aberystwyth er mwyn cael gweld cylchgrawn y TES). 
Ar ôl i chi wneud hynny, gallwch fynd i'r hafan a dechrau darllen newyddion, dadansoddiadau, canllawiau dysgu ac adolygiadau ymchwil (y gallwch ddod o hyd i’r deunydd priodol drwy'r penawdau ar frig y dudalen).
Mae canllawiau wedi’u hatodi a fydd yn eich helpu i greu’ch proffil ac i gael defnyddio’r wefan drwy'r ap. Gallwch hefyd gyrraedd yr adnodd drwy Primo ac ABiéC yr Adnoddau Gwybodaeth Electronig.

SCONUL Access

Mae SCONUL Access yn gynllun sy’n galluogi i nifer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion fenthyca neu ddefnyddio llyfrau a chyfnodolion mewn llyfrgelloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, pwy sy’n gymwys, a sut mae’n gweithio, ewch i: https://www.sconul.ac.uk/sconul-access

Mynediad oddi ar y Campws

Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.

Cyn i chi ddechrau unrhyw chwilio oddi ar y campws:
mewngofnodwch i Primo

undefined

Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.

Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.

I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).