Mae Microsoft 365 yn cynnig e-bost, calendr, cysylltiadau, a Onedrive gyda 1TB o le storio. Gallwch hefyd lawr lwytho Microsoft Office yn rhad ac am ddim. Edrychwch ar eich e-byst yn rheolaidd ar: outlook.aber.ac.uk
Immersive Reader: Er mwyn ei gwneud yn haws darllen dogfennau, e-byst a nodiadau, mae’r Darllenydd Ymdrwythol ar gael yn Microsoft 365. Gyda gosodiadau ffont, gramadeg, llais, ffocws ac eraill y gallwch eu haddasu a'u defnyddio yn Word, Outlook ac OneNote.
Cysylltwch â rhwydwaith Eduroam trwy ddefnyddio eich ffôn symudol neu’ch gliniadur. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth.
Peidiwch â phoeni! Gallwch ailosod eich cyfrinair ar-lein: https://myaccount.aber.ac.uk/open/reset/ Bydd angen i chi ateb y cwestiynau diogelwch yn gyntaf. Cysylltwch â ni os oes unrhyw broblemau.
Offeryn cyfathrebu yw MS Teams a allai gael ei ddefnyddio gan eich tiwtoriaid a staff eraill i gysylltu â chi, cynnal sesiynau ar-lein neu ofyn i chi gydweithio i greu dogfen.
Cewch fenthyca offer megis cyfrifiaduron llechen, glinaduron a meicroffonau o'r Gwasanaethau Gwybodaeth am dymor byr. Rhagor o fanylion am yr hyn sydd ar gael a sut i'w archebu yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/loans/
Dyma Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol lle mae darlithwyr yn rhannu gwybodaeth, deunyddiau a gweithgareddau dysgu sy’n ymwneud â’ch astudiaethau.
Bydd modd i chi fewngofnodi i Blackboard o fewn awr i ysgogi eich cyfrif cyfrifiadurol Prifysgol Aberystwyth. Bydd eich modiwlau yn ymddangos pan fyddwch wedi gorffen cofrestru.
Tarwch olwg ar fodiwl Cefnogi eich Dysgu i ddechrau
Edrychwch ar hwn yn rheolaidd ar https://studentrecord.aber.ac.uk/ i weld:
Mae ein Cwestiynau Cyffredin yn llawn o wybodaeth fuddiol. Cymerwch olwg arnynt fan hyn.
Mae peiriannau argraffu/llungopïo/sganio ar gael mewn gwahanol leoliadau ledled y campws. Gallwch fewngofnodi i unrhyw un ohonynt gyda naill ai eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair neu â Cherdyn Aber.
Eich Cerdyn Aber yw eich cerdyn adnabod myfyriwr ac mae’n adnodd pwysig sy'n rhoi mynediad i chi i amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys:
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud cais ar gyfer eich Cerdyn Aber cyn dod i'r campws fel y bydd yn barod i chi ei gasglu pan gyrhaeddwch chi.
ApAber yw app ffôn symudol Prifysgol Aberystwyth. Mae'r nodweddion integredig yn cynnwys eich amserlen darlithoedd, Primo, a faint o arian sydd ar eich cerdyn Aber. Ar gael ar Android ac Apple iOS.
Edrychwch ar Dod o hyd i adnoddau ar y tab nesaf.