Bydd y canllaw canlynol yn darparu'r holl wybodaeth y byddwch ei hangen i ddefnyddio ein gwasanaethau Llyfrgell a TG. Rhowch gynnig ar y cwis ar y diwedd i weld faint rydych wedi'i ddysgu!
Am y wybodaeth ddiweddaraf am nediadau i wasanaethau a chyfleusterau llyfrgell oherwydd COVID-19, ewch at:: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/isupdate/
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael ar-lein drwy sgwrs ar-lein, ffôn, MS Teams ac e-bost.
Am holl ymholiadau yn ymwneud â’r Llyfrgell a Gwasanaethau TG gallwch gysylltu â ni drwy:
Rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws [map], mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.
Gall holl staff a myfyrwyr y Brifysgol fenthyca hyd at 40 o eitemau ar unrhyw adeg.
Gallwch fenthyca’r rhan fwyaf o lyfrau am un wythnos a chaiff y rhain eu hadnewyddu’n awtomatig i chi bob wythnos nes y bydd rhywun arall eisiau’r llyfr ac yn gwneud cais amdano, neu fod y llyfr yn cyrraedd uchafswm y cyfnod benthyca o 12 mis.
Byddwch yn cael dirwy os nad ydych yn dod â’r llyfr yn ôl pan fydd defnyddiwr arall yn ei adalw. Cewch ragor o fanylion am fenthyca yma.
Mae gwybodaeth ar ein gwasanaeth Clicio a Chasglu, a rhai gwasanaethau cyfyngedig eraill, ar gael ar https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac. Os gwelwch yn dda, darllenwch y dudalen hon yn ofalus cyn defnyddio’r gwasnaeth. Yr ydym yn dibynnu arnoch chi i ddilyn ein rheoliadau newydd a amlinellir ar y dudalen er mwyn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Mae'r gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael yn ddyddiol rhwng 13:00-17:00 ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio’r Gwasanaeth ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin Clicio a Chasglu.
Ceir mwy o wybodaeth ar eich diogelwch wrth ddefnyddio'r gwasanaeth Clicio a Chasglu drwy fynd i'r dudalen we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac/
Edrychwch ar Adnoddau Astudio ar y tab nesaf