Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canllaw Llyfrgell a TG i fyfyrwyr newydd: Dod o hyd i adnoddau

Eich rhestr ddarllen

Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynllunydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl hwnnw.

Ble i ddod o hyd i fy rhestr ddarllen?

BlackBoard

Dewch o hyd i restr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard.

  • Mewngofnodwch i blackboard.aber.ac.uk  ewch i'r modiwl a chliciwch ar y ddolen Rhestr Ddarllen Aspire yn y ddewislen ar y chwith.

Aspire

Gallwch hefyd weld eich rhestrau darllen yn y system Aspire yn aspire.aber.ac.uk

Chwiliwch am fodiwl drwy deipio teitl a/neu god y modiwl.

 

Am fwy o fanylion ewch i'r dudalen Rhestrau Darllen. 

Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:

  • cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol

  • cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol

Sut i Ddod o Hyd i Lyfr o Dy Restr Ddarllen

E-lyfrau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau o e-lyfrau.

Mae gennym filoedd o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n barhaus.

Gallwch gael mynediad i ddarllen e-lyfr drwy Primo. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Testun Llawn Ar-lein yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer elyfrau yn unig.  

Os oes gennym y llyfr mewn fersiwn electronig, bydd y cofnod ar Primo yn datgan Mynediad arlein.

Ymwelwch â'n Cwestiynau Cyffredin eLyfrau am ragor o wybodaeth ac i weld rhagor o gyfarwyddiadau

Catalog y Llyfrgell

Primo yw catalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth.

Yn Primo gallwch chwilio am lyfrau, erthyglau, traethodau ymchwil a deunyddiau eraill yng nghasgliad y llyfrgell o adnoddau print ac electronig.

I gael y canlyniadau gorau o Primo, bydd angen i chi fewngofnodi.

 

Cymorth gyda dod o hyd i adnoddau a gwybodaeth pwnc

Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen

Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, eich traethawd hir neu'ch ymchwil. 

Neu drefnwch apwyntiad ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc: https://libcal.aber.ac.uk/

Llyfrau yn y Llyfrgell

Ym mlwch chwilio Primo rhowch un neu ddau o eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw'r awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos gallwch ddewis Llyfrau yn y ddewislen Addasu fy nghanlyniadau ar y chwith i ddangos y canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig.

Llyfr ar gael

Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.

Llyfr ar fenthyg

Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn. 

Medrwch ad-alw llyfr os yw ar fenthyg hefyd ar gyfer Clicio a Chasglu. 

Mynediad Ar-lein

Os yw'r eitem ar gael mewn fformat electronig, cliciwch Mynediad arlein i gael y fersiwn ar-lein.

Gwasanaeth Clicio a Chasglu y Llyfrgell

Mynediad oddi ar y Campws

Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.

Cyn i chi ddechrau unrhyw chwilio oddi ar y campws:

mewngofnodwch i Primo

undefined

Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.

Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.

I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler: https://faqs.aber.ac.uk/cy/163

LibGuides

Canllawiau i'ch helpu chi yw ein LibGuides. Maent yn cynnig gwybodaeth fanwl am adnoddau print ac electronig ar gyfer pob pwnc
https://libguides.aber.ac.uk

                libguide celf

Nawr rhowch gynnig ar y Cwis ar y tab nesaf.