European Sources Online (ESO) gwasanaeth gwybodaeth o werth ychwanegol sy’n cael ei ddiweddaru bob dydd ac sy’n canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd Ewrop ac ar faterion sydd o bwys i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewrop heddiw.
Mae gan lawer o gronfeydd data a chyfnodolion nodwedd i gadw chwiliad ac yna derbyn neges e-bost.
Cronfeydd data amlddisgyblaethol sydd â'r nodwedd hon
Am ragor o gyngor ar ddefnyddio'r nodweddion ymwybyddiaeth cyfredol yn unrhyw un o'n cronfeydd data, cysylltwch â llyfrgellwyr@aber.ac.uk
Mae JournalTOCs yn wasanaeth ymwybyddiaeth cyfredol i ddarganfod yr erthyglau diweddaraf gan y cyhoeddwyr. Dyma gasgliad rhad ac am ddim o dablau cynnwys cyfnodolion ysgolheigaidd. Caiff dros 30,000 o gyfnodolion eu cynnwys. Gellir gosod rhybuddion ar gyfer cyfrolau newydd o’r cyfnodolion yr ydych yn eu ‘dilyn’.
Erthyglau cylchgronau, cyfnodolion a newyddion ar bynciau o ddiddordeb cyffredinol a digwyddiadau cyfoes.
Gallwch gael y newyddion Teledu a Radio diweddaraf. Dros 60 o sianeli teledu a radio.
Cronfa ddata sy’n cynnwys rhifyn digidol llawn o bapur newydd.
The Times (Llundain), o 1785 - 2019. Mae’n cynnwys pob tudalen lawn o bob rhifyn o’r papur newydd, gan gynnwys penawdau, erthyglau a delweddau o’r holl gynnwys – tudalennau blaen, erthyglau golygyddol, hysbysiadau am enedigaethau a marwolaethau, hysbysebion a hysbysebion wedi’u dosbarthu.
Mae Pressreader yn rhoi mynediad anghyfyngedig i filoedd o bapurau newydd a chylchgronau.
'The EU Newsroom' yw gwefan newyddion swyddogol sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Yma, fe welwch y newyddion diweddaraf a deunydd i’r wasg gan sefydliadau, asiantaethau a chyrff yr UE mewn un lle, gan ddarparu un pwynt mynediad at holl newyddion yr UE.
Mae EU Observer yn ffynhonnell wych o benawdau newyddion sy’n ymwneud â’r UE.