Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd: Cyflwyniad

Cyflwyniad

Mae Canolfannau Dogfennau Ewropeaidd (CDE) yn ffurfio rhwydwaith o ganolfannau gwybodaeth a sefydlwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yn 1963 i gefnogi astudio, addysgu ac ymchwil mewn prifysgolion. Yn y Deyrnas Unedig, sefydlwyd y canolfannau hyn yn y 1970au ar ôl i’r DU ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd. Fe’u lleolir mewn prifysgolion er mwyn i staff academaidd a myfyrwyr fedru cael at ddogfennau’r Undeb Ewropeaidd yn hawdd ac fe’u cefnogir yn hyn o beth gan y Comisiwn Ewropeaidd.  Mae dros 40 o ganolfannau o’r fath yn y Deyrnas Unedig, a dwy ohonynt yng Nghymru – yma yn Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynlluniwyd y tudalennau hyn i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth am y pynciau canlynol:

  • Cyfraith Ewrop
  • Polisïau a sefydliadau Ewrop
  • Integreiddio Ewropeaidd

Mae croeso ichi gysylltu os oes gennych gwestiynau: llyfrgellwyr@aber.ac.uk

 

Porwch drwy’r Cyhoeddiadau Ewropeaidd diweddaraf

Mae’r cyhoeddiadau diweddaraf i’w gweld yng nghornel y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen.

Gallwch ddod o hyd i’r rhain a mwy yn y llyfrgell

Chwiliwch drwy Primo i ddod o hyd i ragor o deitlau neu porwch drwy Gasgliad y Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd ar Lefel F Hugh Owen.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau