European Sources Online gwasanaeth gwybodaeth o werth ychwanegol sy’n cael ei ddiweddaru bob dydd ac sy’n canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd Ewrop ac ar faterion sydd o bwys i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewrop heddiw.
Cronfeydd data a argymhellir
European Sources Online - gwasanaeth gwybodaeth o werth ychwanegol sy’n cael ei ddiweddaru bob dydd ac sy’n canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd Ewrop ac ar faterion sydd o bwys i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewrop heddiw.
Nexis - ffynhonnell wych o wybodaeth newyddion, yn cynnwys papurau newydd rhyngwladol, cyhoeddiadau masnach a gwybodaeth am gwmnïoedd. Ceir testun cyflawn ar gyfer pob erthygl. Gellir hidlo yn ôl dyddiadau, iaith neu deitl(au) papurau newydd a diweddarir y safle yn ddyddiol.
EUROPA search - Dyma chwilotwr swyddogol yr UE i ddod o hyd i wybodaeth o sefydliadau ac asiantaethau’r UE sydd ar gael drwy borthol EUROPA.
Search Europa - Sefydlwyd gan y Ganolfan Newyddiaduraeth Ewropeaidd i ddefnyddio Google i chwilio drwy borthol EUROPA.
FIND-eR - Dewch o hyd i gyhoeddiadau a dogfennau’r UE, llyfrau academaidd, erthyglau mewn cyfnodolion ar faterion o ddiddordeb i’r UE. Ceir dolenni cyswllt hwylus ar gyfer testunau cyflawn ffynonellau.
EUR-Lex - Yma fe gaiff y cyhoedd fynediad am ddim i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys testun cyflawn cytundebau cyfunol a’r holl ddeddfwriaeth sydd mewn grym. Ceir yma hefyd destun cyflawn cyfresi C ac L y Cyfnodolyn Swyddogol ar gyfer y 45 diwrnod diwethaf.
Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau mewn cyfnodolion gan ddefnyddio’r chwilotwr Primo ‘Erthyglau’ yn Primo.
Mynediad uniongyrchol at Gyfnodolyn Swyddogol yr UE.