Cyhoeddiad yw cyfnodolyn sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol sy'n gallu cynnwys detholiad o erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn reolaidd, megis yn wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae set o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer, mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân). Gelwir cyfnodolion weithiau yn gylchgronau. Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn. Gallant fod ar gael mewn fformat print, ar-lein neu'r ddau.
Pam defnyddio erthyglau?
Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.
Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o gyfnodolion electronig.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am adnoddau electronig y fan yma.
Ymwelwch â'r Cwestiynau a Holir yn Aml am e-gyfnodolion (Saesneg yn unig - aros am gyfieithiad).
Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.
Os ydych am gael mynediad i'n hadnoddau electronig oddi ar y campws, nid oes angen i chi osod a rhedeg VPN bellach; gellir cael mynediad at y rhain gan ddefnyddio Primo VPN.
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw:
1. Mewngofnodi i https://primo-vpn.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA. Mae rhaid i chi gadw'r porwr ar agor tra'ch bod yn gweithio.
2. Mewngofnodi i https://primo.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA - cewch eich annog i wneud hyn ar ôl cysylltu â Primo VPN.
Byddwch wedyn yn cael mynediad oddi ar y campws i’r mwyafrif o adnoddau gwybodaeth electronig y mae PA wedi tanysgrifio iddynt a’u testun llawn. Os ydych chi’n cau eich porwr bydd angen i chi fewngofnodi eto.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).
American Chemical Society (ACS) Journals Search
American Society for Microbiology (ASM) Journals
Cambridge Core (Journals and Books)
Directory of Open Access Journals (DOAJ)
Highwire Press (free papers)
Highwire Press (all titles browse)
PLoS Public Library of Science Journals