Mae cefnogaeth Llyfrgell ar gael drwy e-bost, ffôn, Skype a MS Teams. Gweler manylion isod.
Mae Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar gau nes clywir yn wahanol.
Mae'r canolfannau dysgu ac ystafelloedd cyfrifiadura 24/7 ar gau nes clywir yn wahanol.
Ni fyddwn yn gofyn i chi ddychwelyd eich llyfrau hyd yn oed os ydynt wedi cyrraedd pen eu cyfnod benthyca.
Cofiwch nad oes angen i chi boeni am eitemau ar fenthyg gan y bydd dirwyon yn cael eu diddymu o 17 Mawrth 2020. Gallwch wirio eich cyfrif llyfrgell o Primo neu trwy App Aber.
Ni ellir rhoi cais am lyfr sydd wedi’i fenthyca gan unrhyw un arall.
Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.
Fy enw i yw Simon French, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Gallaf eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.
Rwyf wedi fy lleoli yn Llyfrgell Hugh Owen.
Yn ein hymdrechion i reoli effaith coronafirws (COVID-19), bydd holl weithgareddau cymorth llyfrgell wyneb yn wyneb yn dod i ben.
Cysylltwch â fi:
E-bost: sif4@aber.ac.uk
Rhif ffôn: 01970 62 2080
(am ymholiadau neu i drefnu cyfarfod MS Teams)
neu
Trefnu Apwyntiad (Skype yn unig)
Defnyddiwch y linc isod o dan fy llun yn y blwch Manylion Cyswllt i ddod o hyd i ddyddiadau ac amseroedd ac i drefnu apwyntiad neu ewch i https://libcal.aber.ac.uk/appointments/simon
Dewiswch ddydd ac amser yn ôl y trefn arferol.