Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: Llyfrau ac E-lyfrau

Llyfrau yn y Llyfrgell

I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.

Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.

Llyfr ar fenthyg

Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.

Ad-alw llyfr

Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw  y fan yma. 

 

Mynediad Ar-lein

Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:

Lleoliadau’r Silffoedd

Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Llyfrgell Hugh Owen.

Prif adrannau ar Lefel F:

G Daearyddiaeth (cyffredinol)
G141 Daearyddiaeth Hanesyddol
GA Daearyddiaeth Fathemategol
GB Daearyddiaeth Ffisegol
GC Cefnforeg
GE Gwyddorau Amgylcheddol
GF Daearyddiaeth Ddynol
HF Daearyddiaeth Economaidd
HT Daearyddiaeth Drefol

Prif adrannau ar Lefel E:

QE Daeareg / Gwyddorau Daear
QH Hanes y Byd Naturiol
RA Daearyddiaeth Feddygol a Hinsoddeg
SB Parciau Cenedlaethol
SD Coedwigaeth
TD Technoleg Amgylcheddol

E-lyfrau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau o e-lyfrau.

Mae gennym filoedd o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n barhaus. Gallwch gael mynediad i ddarllen e-lyfr drwy Primo.

Ymwelwch â'r dudalen yma am fwy o wybodaeth a gweld cyfarwyddiadau ar Primo.

Mwy o lyfrau

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr 'rydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano trwy'r ymgyrch ​Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig). Bydd pob llyfr sy'n cael ei archebu drwy'r ymgyrch yn cael ei osod yng nghasgliad y llyfrgell.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma.

Cronfeydd data allweddol o e-lyfrau

Dyma restr o gronfeydd data allweddol o e-lyfrau. 

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo

FAQ - Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau

Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.

Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.

Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.