Fe welwch y bydd adegau pan na fydd yr adnodd chi angen ei ddefnyddio ar gael o gasgliadau'r llyfrgell. Yn y senario hwn mae nifer o opsiynau ar gael i chi i geisio cael gafael ar y deunyddiau sydd eu hangen arnoch chi:

Fel aelodau staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gallwch wneud cais am gopi wedi’i sganio o erthygl mewn cyfnodolyn, pennod o lyfr, neu ddarn o draethawd hir o’n casgliadau printiedig, cyn belled â bod y cais yn cydymffurfio â rheoliadau hawlfraint.
Darganfyddwch fwy am y gwasanaeth a chwblhewch y ffurflenni cais ar-lein yma:

Mae gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.

Os na allwch ddod o hyd i lyfr yr ydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano drwy’r ymgyrch Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig).
Bydd pob llyfr a archebir trwy'r ymgyrch yn cael ei roi yng nghasgliad y llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen Mwy o Lyfrau.