Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Dysgu Gydol Oes: Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyhoeddiad yw cyfnodolyn sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol sy'n gallu cynnwys detholiad o erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn reolaidd, megis yn wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae set o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer, mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân). Gelwir cyfnodolion weithiau yn gylchgronau. Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn. Gallant fod ar gael mewn fformat print, ar-lein neu'r ddau.

Pam defnyddio erthyglau?

  • Maent yn ffynonellau pwysig ar gyfer gwybodaeth pwnc neu ymchwil.
  • Gwybodaeth am ddatblygiadau cyfredol.
  • Cyhoeddir erthyglau cylchgrawn yn gyflymach na llyfrau, felly gallant fod yn fwy cyfredol.
  • Maent yn aml yn ymdrin â phwnc yn fanwl ac yn cynnwys ymchwil gwreiddiol.

Gallwch ddod o hyd i gyfnodolion printiedig cyfredol a henach ar Lefel F ac E o Lyfrgell Hugh Owen.

Gellir canfod cyfnodolion ar silffoedd ar wahân i'r prif gasgliad llyfrau.

Sut i chwilio am gyfnodolion yn Primo?

I chwilota am GYFNODOLION / E-GYFNODOLION:

  • cadwch y chwiliad fel Llyfrgelloedd (y chwiliad diofyn).

  • Bydd y chwiliad hwn yn chwilio am:rau/e-lyfrau neu gylchgronau/ electronig neu ffisegol mewn llyfrgelloedd y campws: llyfrau, cylchgronau, papurau newydd, pamffledi, DVDs, e-lyfrau, e-gylchgronau a ffynonellau gwybodaeth electronig eraill y mae AU yn tanysgrifio iddynt (chwiliadau am deitlau e-lyfrau/e-cyfnodolion nid penodau/erthyglau unigol o fewn).

 

Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i ystod eang o e-gylchgronau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe adnoddau electronig. 

Mae erthyglau yn darparu ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. 

  • I chwilio am erthyglau testun llawn, newidwch y dewisiad yn y gwymplen i Erthyglau

Sut ydw i'n dod o hyd i erthyglau testun llawn yn Erthyglau Primo?

Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.

Cyn i chi ddechrau unrhyw chwilio oddi ar y campws: mewngofnodwch i Primo

 

undefined

Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.

Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.

Mae BrowZine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth.

Gan ddefnyddio BrowZine gallwch:

  • Pori neu chwilio yn ôl maes pwnc i ddod o hyd i e-gyfnodolion o ddiddordeb
  • Chwilio am deitl penodol
  • Creu eich silff lyfrau eich hun o’ch hoff e-gyfnodolion a’u trefnu sut y dymunwch
  • Dilyn eich hoff deitlau a derbyn hysbysiadau pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi
  • Cadw erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau

Gallwch ddefnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu lawrlwythwch yr ap i’w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd BrowZine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi ddarllen eich e-gyfnodolion lle bynnag y byddwch.

Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwiliad e-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o’ch siop apiau.

Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr sy'n darparu dolenni awtomatig i erthyglau testun llawn wrth ichi wneud ymchwil a dod ar draws llenyddiaeth ar y we.

Mae LibKey Nomad yn chwilio ein daliadau Llyfrgell a data mynediad agored i ddod o hyd i'r fersiwn orau o'r erthygl tra byddwch chi'n chwilio'r we ac yn dod ar draws llenyddiaeth.

libkey nomad logo

Lawrlwytho LibKey Nomad yma