Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.
Casgliad o adnoddau i fyfyrwyr TAR, i'w hadnabod trwy chwilio am label gwyrdd ar y meingefn. Yn ystod cyfnodau ymarfergol gall myfyrwyr TAR fenthyg y llyfrau hyn am gyfnod cyfan y lleoliad. Adnoddau i'w benthyca am bythefnos, tridiau a chyfnod byr yw'r holl adnoddau eraill.
Defnyddiwch Primo primo.aber.ac.uk i chwilio trwy'r catalog llyfrgell ar-lein, i reoli eich benthyciadau llyfrgell ac i ddarganfod e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd-data. Ceir rhagor o adnoddau ar gyfer astudio addysg a dysgu gydol oes yn: jump.aber.ac.uk/?xgt
Mae'r Ystafell Ddarllen wedi ailagor gyda gwasanaethau cyfyngedig ers 1 Medi. Rydym yn cynllunio i adfer gwasanaethau eraill cyn bo hir.
Llyfrgell adnau cyfreithiol yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy'n hawlio copi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon.
Gallwch bori drwy'r catalog a chwilio'r casgliadau arlein. Mae rhai casgliadau wedi eu digido a gellir eu gweld arlein. Fe gewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau digidol ar dudalen Adnoddau LlGC.