COVID-19 Diweddariad o'r Llyfrgell
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael drwy ymweld â Lefel D, Llyfgell Hugh Owen, sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Mae gwybodaeth ar ein gwasanaeth Clicio a Chasglu, a rhai gwasanaethau cyfyngedig eraill, ar gael ar https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac. Os gwelwch yn dda, darllenwch y dudalen hon yn ofalus cyn defnyddio’r gwasnaeth. Yr ydym yn dibynnu arnoch chi i ddilyn ein rheoliadau newydd a amlinellir ar y dudalen er mwyn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Mae'r gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael yn ddyddiol rhwng 13:00-17:00 ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio’r Gwasanaeth ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin Clicio a Chasglu.
Ceir mwy o wybodaeth ar eich diogelwch wrth ddefnyddio'r gwasanaeth Clicio a Chasglu drwy fynd i'r dudalen we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac/
Helo! Fy enw i yw Lloyd Roderick, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Celf a Hanes Celf.
Gallaf eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.
Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.