Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Celf a Hanes Celf: Casgliadau

Casgliadau Prifysgol Aberystwyth

Casgliadau

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.

Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Celf a Hanes Celf:

Casgliad CELT

Mae’r Casgliad Celtaidd yn dwyn ynghyd ddeunyddiau sy’n ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, Yr Alban a Chymru, ac yn cynnwys oddeutu 25,000 o lyfrau. Lleolir y casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F. Mae’r rhagddodiad CELT wedi’i nodi ar feingefn eitemau yn y casgliad, Gellir dod o hyd iddynt i gyd drwy Primo.  Er bod y casgliad yn cynnwys deunyddiau ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, gan gynnwys nifer fawr o lyfrau am gelf a hanes celf y gwledydd Celtaidd.  Gweler ambell engrhaifft isod:

Celf yn y llyfrgell

Arddangoir detholiad o gasgliad yr Ysgol Gelf yn llyfrgell Hugh Owen. Ar lefel D mae yna gwaith gan Evan Walters, Colin Gard Allen, David Tinker ac eraill.

Cysylltu â Lloyd

Cysylltwch â Lloyd, eich Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych unrhyw ymholiad llyfrgellyddol neu os hoffech drefnu cyfarfod:

Ebost: glr9@aber.ac.uk

Trefnu apwyntiad ar-lein