Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Celf a Hanes Celf: Llyfrau ac E-lyfrau

Llyfrau ac E-lyfrau

  • Bydd nifer yr eitemau y byddwch yn gallu eu benthyca o'r llyfrgell yn dibynnu ar eich cateogri benthyciwr. 

  • Gallwch benthyca'r rhan fwyaf o eitemau am wythnos, ac fe fydd y rhain yn cael eu adnewyddu yn awtomatig bob wythnos naill ai tan bod defnyddiwr arall eisiau'r eitem, neu tan fydd y llyfr wedi bod ar fenthyg am 12 mis.

  • Ni fyddwch yn cael dirwy oni bai nad ydych yn dychwelyd llyfr â adelwir gan ddefnyddiwr arall, neu os nad ydych yn dychwelyd yr eitem i'r llyfrgell ar ôl 12 mis.

  • Mwy o wybodaeth:  Benthyca o'r Llyfrgell

 

I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.

 

Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth. 

Llyfr ar fenthyg

Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.

 

Ad-alw llyfr

Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw llyfr sydd allan ar fenthyg gan ddefnyddiwr arall yn ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 814.

  

Mynediad Ar-lein

Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:

I chwilio am lyfrau/e-lyfrau neu gylchgronau/e-gyfnodolion cadwch y chwiliad fel Llyfrgelloedd (y chwiliad diofyn). Bydd y chwiliad hwn yn chwilio am:

  • eitemau ffisegol mewn llyfrgelloedd y campws: llyfrau, cylchgronau, papurau newydd, pamffledi, DVDs, e-lyfrau, e-gylchgronau a ffynonellau gwybodaeth electronig eraill y mae AU yn tanysgrifio iddynt (chwiliadau am deitlau e-lyfrau/e-cyfnodolion nid penodau/erthyglau unigol o fewn).

Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynullydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl.

Blackboard

Cewch hyd i'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard 

Ar gyfer Rhestrau Darllen 2022-2023 (2023-2024 isod)

  • Ewch i'r modiwl yn Blackboard a chliciwch ar y ddolen Rhestr Ddarllen yn y modiwl

  • Yn y dudalen sy'n ymddangos cliciwch ar y ddolen i'r rhestr ddarllen, a bydd y rhestr yn agos yn system Rhestrau Darllen Aspire

Mwy o wybodaeth am eich Rhestrau Darllen Aspire.

Ar gyfer Rhestrau Darllen 2023-2024

  • Ewch i'r modiwl yn Blackboard a bydd y Rhestr Ddarllen yn ymddangos yn y chwe eitem uchaf o fewn Cynnwys y Cwrs
  • Cliciwch ar y Rhestr Ddarllen a bydd yn agor yn system Rhestrau Darllen Aspire

Mwy o wybodaeth am eich Rhestrau Darllen Aspire.

 

Aspire

Gallwch hefyd weld eich rhestrau darllen drwy fynd yn uniongyrchol i'r system Aspire yn aspire.aber.ac.uk

Chwiliwch am fodiwl drwy deipio teitl a/neu god y modiwl.

 

Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:

  • cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol

  • cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol

Lleolir loceri Casglu ar Lawr D Llyfrgell Hugh Owen. Mae'r loceri hyn yn darparu gwasanaeth digyswllt, diogel ar gyfer casglu llyfrau, offer ac eitemau eraill y gofynnir amdanynt. Bydd defnyddwyr yn cael eu hysbysu trwy e-bost pan fydd yr eitemau yn barod i'w casglu o'r loceri.

Bydd angen eich CerdynAber arnoch i gael mynediad i'r loceri. 

Gall defnyddwyr dewis i gasglu o locer uchder hygyrch. Sut y gallaf wneud cais i roi fy llyfrau mewn locer casglu uchder hygyrch?

 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau o e-lyfrau.

Mae gennym filoedd o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n barhaus.

Gallwch gael mynediad i ddarllen e-lyfr drwy Primo. 

  • Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur.
  • Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Testun Llawn Ar-lein yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer e-lyfrau yn unig.  

Os oes gennym y llyfr mewn fersiwn electronig, bydd y cofnod ar Primo yn datgan Mynediad arlein. 

  • Gellir canfod gyd o'n e-lyfrau drwy pori drwy ein catalog llyfrgell, Primo.
  • Teipiwch mewn eich allweddeiriau a phan welwch Mynediad Ar-lein yn erbyn y llyfr penodedig, dewiswch drwy glicio ar y linc cyfatebol i naill ai i'w ddarllen ar-lein neu i'w lawrlwytho.  
  • Mwy o wybodaeth ar sut i gael mynediad i wahanol e-lyfrau:  Sut ydw i'n gael mynediad i e-lyfrau.

 

Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws?

 

Cyn i chi ddechrau unrhyw chwilio oddi ar y campws: mewngofnodwch i Primo

undefined

  • Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
  • Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.. 
eScholarship Editions (University of California)

Mae Casgliad E-Lyfrau UC Press, 1982-2004, yn cynnwys bron i 2,000 o lyfrau o weisg academaidd ar ystod o bynciau

Gale Reference Complete - E-Books (cyffredinol)
Internet Text Archive

Mae'r archif  yn cynnig dros 15,000,000 o lyfrau a thestunau y gellir eu lawrlwytho

Pennsylvania Online Books (all topics) 
  • http://onlinebooks.library.upenn.edu/  (Copiwch a gludwch y linc i borwr)
  • Rhestr o dros 3 miliwn o lyfrau am ddim ar y W
Project Gutenberg
  • http://www.gutenberg.org/ (Copiwch a gludwch y linc)
  • Mae Prosiect Gutenburg yn cynnig dros 59.500 elyfrau am ddim i lawrlwytho
ProQuest Ebook Central

Defnyddiwch Ebook Central i ddod o hyd i lyfrau a phenodau perthnasol yn gyflym ac yn hawdd

WikiSource

Mae Wikisource yn Llyfrgell Rydd o destunau ffynhonnell sydd ar gael i'r cyhoedd neu'n gyfreithiol ar gael i'w hailddosbarthu am ddim

Wiley Online Library

Mae platfform Llyfrgell Wiley Online yn cynnwys adnoddau electronig am:

 

Mae gwasanaeth digideiddio pennod o lyfr ar gael i gefnogi eich astudiaethau.

Gweler Sut ydw i'n gwneud cais i ddigido pennod o lyfr yn y llyfrgell am fwy o wybodaeth.