Dysgwch fwy am gyfeirnodi'r holl ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwch yn eich gwaith cwrs yn gywir, yn ogystal â sylweddoli beth yw canlyniadau methu â chydnabod y ffynonellau hyn.
Y pethau sylfaenol i gofio
Un o nodweddion pwysicaf ysgrifennu academaidd yw cydnabod llyfrau, erthyglau cyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth eraill rydych wedi’u defnyddio yn eich gwaith, fel arfer drwy gyfeirio atynt yn eich aseiniad a rhestru pob un ar y diwedd mewn llyfryddiaeth. Yn aml iawn, fe gewch farciau am wneud hyn yn gywir felly mae’n sgil sy’n werth ei dysgu cyn gynted ag y gallwch.
Os na fyddwch yn cydnabod eich ffynonellau mae’n bosib y byddwch yn cyflwyno syniadau neu ddyfyniadau rhywun arall fel eich rhai chi eich hun. Llên-ladrad yw hynny; nid yw’r Brifysgol yn caniatáu hyn a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.
Edrychwch ar ganllaw cyfeirio MLA yr Ysgol Gelf ei hun (Saesneg yn unig - aros am gyfieithiad) a’r adnoddau eraill sydd ar gael isod.
Cysylltwch â Lloyd, eich Llyfrgellydd Pwnc os oes angen rhagor o gyngor neu gymorth.
Yn syml, mae cyfeiro neu gyfeirnodi yn golygu cydnabod eich ffynonellau.
Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cyfeirio'n gywir ac yn gyson.
TERMAU ALLWEDDOL
Cyfeirio neu ddyfynnu o fewn y testun:
Aralleirio:
Dyfynnu/dyfyniad:
Cyfeirnodi:
Cyfeirnod:
Llyfryddiaeth:
Cyfeiriwch a chyfeirnodwch y ffynonellau rydych wedi'u defnyddio'n gywir ac yn gyson.
Pam?
i ennill marciau gwell
bydd yna dystiolaeth yn cefnogi'ch dadleuon yn glir
gall eich darlithydd weld pa mor eang rydych chi wedi'i ddarllen
bydd eich gwaith yn adlewyrchu gwerthoedd academaidd disgwyliedig ac arfer academaidd da.
osgoi llên-ladrad damweiniol
cydnabod y rhai yr ydych wedi dyfynnu neu aralleirio eu gwaith
caniatáu i'r rhai sy'n darllen eich gwaith ddod o hyd i'r ffynonellau rydych wedi'u defnyddio a'u darllen
adeiladu ar eich sgiliau ymchwil
mae cyfeirnodi da yn hanfodol i ysgrifennu academaidd mewn addysg uwch
Ystyr llên-ladrad yw cyflwyno gwaith rhywun arall fel eich gwaith chi eich hun.
Er enghraifft:
peidio â chyfeirnodi awdur rydych wedi dyfynnu o un o’i lyfrau neu erthyglau yn eich aseiniad
copïo a throsglwyddo testun o’r rhyngrwyd yn eich aseiniad heb nodi’r ffynhonnell
copïo rhan o draethawd ffrind neu’r cyfan ohono i’ch traethawd chi
prynu traethawd ar-lein neu o ffynhonnell arall
Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y mae’r Brifysgol yn ei ystyried yn llên-ladrad ar gael, a beth sy'n digwydd os ydych chi'n llên-ladrata, yn y Rheoliadau ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
Mae’r canlyniadau’n ddifrifol:
gall myfyrwyr a ddysgir drwy gwrs gael eu diarddel o’r Brifysgol
gall myfyrwyr ymchwil uwchraddedig fethu elfen traethawd ymchwil eu cwrs
Pan gyflwynwch aseiniad rhaid i chi lofnodi blaenddalen i nodi eich bod yn deall canlyniadau llên-ladrad
Bydd meddalwedd y Brifysgol ar gyfer cyflwyno gwaith ar-lein, Turnitin, yn chwilio drwy eich aseiniad am dystiolaeth o lên-ladrad a bydd pwy bynnag sy’n marcio eich aseiniad yn gweld yr adroddiad a gynhyrchir.
Cymerwch olwg yn ein Canllaw Ymwybyddiaeth am Gyfeirnodi a Llên-ladrad er mwyn dysgu mwy am gyfeirnodi'r holl ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwch yn eich gwaith cwrs yn gywir, yn ogystal â sylweddoli beth yw canlyniadau methu â chydnabod y ffynonellau hyn.
Ar ôl i chi orffen, gallwch wedyn roi prawf ar eich gwybodaeth trwy wneud cwis a fydd yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.
Mae yna nifer o gyrsiau rhad ac am ddim y gallech fynd arnynt sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyfeirio. Cliciwch ar y linciau isod a phorwch drwy'r rhestr cyrsiau.
Cyrsiau israddedig rhad ac am ddim.
Cyrsiau uwchraddedig rhad ac am ddim
Mae yna feddalwedd rheoli cyfeirio ar gael i'ch helpu i drefnu eich cyfeiriadau a fformatio eich dyfyniadau a llyfryddiaethau.
Cyfeirio a llyfryddiaeth yn Microsoft Word
Mae yna nodwedd yn Microsoft Word ar gyfer creu dyfyniadau testun a llyfryddiaethau. Citations & Bibliography yw'r enw arno a gallwch ddod o hyd iddo ar y tab References yn Word. Dalier sylw: mae'n rhaid i chi deipio'r manylion cyfeirio eich hun felly mae hyn yn ddefnyddiol dim ond os ydych chi'n dyfynnu nifer fach o gyfeiriadau yn unig. Hefyd nid yw wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gyda throednodiadau.
EndNote
Mae EndNote yn gymwysiad cyfeirio llyfryddiaethol ar gyfer casglu cyfeiriadau llyfryddiaethol o gronfeydd data ar-lein, rheoli a storio cyfeirnodau, fformatio'r cyfeirnodau ac allforio'r cyfeiriadau fel troednodiadau, ôl-nodiadau a llyfryddiaethau i ddogfennau Microsoft Word.
Mae EndNote X9 ar gael i'w lawrlwytho am ddim (Windows a Mac) i gyfrifiaduron sy'n eiddo i fyfyrwyr a staff:
Mae'r fideo byr EndNote X9: The Short Course (22 munud) yn cwmpasu'r holl hanfodion ar sut i weithredu Endnote X9.
Ceir hefyd fwy o wybodaeth ar dudalennau sgiliau gwybodaeth (Saesneg yn unig, aros am gyfeithiad) a Chwestiynau a Holir yn Aml: EndNote
Cysylltwch â Lloyd, eich Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych unrhyw ymholiad llyfrgellyddol neu os hoffech drefnu cyfarfod:
Ebost: glr9@aber.ac.uk