Beth yw adeiladu anogwr?
Adeiladu anogwyr yw'r broses o greu cyfarwyddiadau clir (a elwir yn anogwyr) sy'n helpu offer DA cynhyrchiol i greu ymatebion penodol. Gall anogwr fod yn gwestiwn, yn orchymyn neu’n ddatganiad sy'n rhoi'r cyd-destun a'r manylion sydd eu hangen ar DA i greu atebion perthnasol a chywir.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae'r gallu i greu anogwyr effeithiol ar gyfer offer DA yn bwysig oherwydd gall:
Mae'r rhain oll yn sgiliau a all wella eich perfformiad academaidd, ac y mae llawer o gyflogwyr yn gofyn amdanynt.
Pwysigrwydd adeiladu anogwr da
Mae anogwr DA da yn gryno, wedi'i strwythuro'n dda a phenodol. Gallech feddwl amdano fel fformiwla lle mae pob newidyn yn cyfrannu at sicrhau bod yr anogwr yn glir, yn benodol, ac wedi'i deilwra i'r canlyniad a ddymunir o'r dechrau, er enghraifft:
Tasg + Pwnc + Strwythur + Arddull + Lefel
Tasg: Esboniwch
Pwnc: effaith newid hinsawdd ar ddinasoedd arfordirol
Strwythur: mewn adroddiad manwl
Arddull: ffurfiol
Lefel o fanylion: dadansoddiad manwl
Anogwr: "Eglurwch effaith newid hinsawdd ar ddinasoedd arfordirol mewn adroddiad manwl. Defnyddiwch naws ffurfiol a darparu dadansoddiad manwl."
Hawlfraint
Mae llawer o fodelau ar gyfer DA yn cael eu hyfforddi drwy ddefnyddio cynnwys dan hawlfraint sydd wedi'i dynnu o'r Rhyngrwyd. Nid yw'n glir eto a yw hyn yn cael ei ystyried yn torri hawlfraint, ond dylech fod yn ymwybodol o'r goblygiadau moesegol posib.
Diogelu data
Byddwch yn ofalus a pheidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth sensitif na phersonol ag offer DA. Mae offer DA yn wan o ran diogelu data, ac nid yw bob amser yn glir sut y bydd unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhannu yn cael ei defnyddio. Gwenwch yn siŵr eich bod yn yn deall polisïau preifatrwydd yr offer rydych chi'n eu defnyddio.
Mae offer DA Cynhyrchiol yn creu cynnwys ar sail data hyfforddi, data nad yw bob amser yn gyfredol. Cofiwch ei bod yn bosib na fydd y cynnyrch wedi’i seilio ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael - i rai disgyblaethau mae hyn yn arbennig o bwysig. Gwiriwch manylion gyda ffynonellau cyfredol dibynadwy bob amser.
Nid yw'r rhan fwyaf o Offer DA yn gallu cael gafael ar wybodaeth sydd ar gael drwy danysgrifiadau, dim ond pethau sydd ar gael yn gyffredinol ar y rhyngrwyd. Mae'r rhan fwyaf o ymchwil academaidd o ansawdd uchel i’w chael y tu ôl i waliau talu yn unig ac felly nid yw ar gael i lwyfannau DA.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio adnoddau y mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn eich prosesau ymchwil ac ysgrifennu.
Gall modelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ddangos amrywiol fiasau oherwydd y data y maent wedi'u hyfforddi arnynt a chyfyngiadau cynhenid eu halgorithmau. Dyma bum nodwedd gyffredin a welir mewn deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol:
1. Bias o ran rhywedd: Gall modelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol efelychu a chynnal rhagfarnau cymdeithasol presennol sy'n gysylltiedig â rhywedd, megis stereoteipiau neu ddefnydd iaith rhyweddedig.
2. Bias hiliol ac ethnig: Gall modelau deallusrwydd artiffisial gynhyrchu cynnwys sy'n atgyfnerthu stereoteipiau hiliol neu ethnig neu'n dangos triniaeth anghyfartal o grwpiau penodol yn anfwriadol.
3. Bias diwylliannol: Gall cyd-destunau diwylliannol penodol mewn data hyfforddi gynhyrchu cynnwys sydd o blaid diwylliannau eraill neu sy'n eu heithrio, gan arwain at ddiffyg cynrychiolaeth neu gamgynrychiolaeth.
4. Bias cytuno: Gall modelau DA atgyfnerthu credoau neu farnau unigol, gan arwain o bosib at allbwn pleidiol sy'n cyd-fynd â safbwyntiau neu ideolegau penodol.
5. Bias cynnwys: Gall modelau DA ddangos bias yn y mathau o gynnwys y maent yn ei gynhyrchu, gan ffafrio rhai pynciau, themâu neu safbwyntiau dros eraill.
Mae'n bwysig i fyfyrwyr ddeall y gall y tueddiadau hyn fod yn bresennol ac i ddatblygu sgiliau i werthuso allbynnau DA yn feirniadol.
Gall modelau DA gynhyrchu 'rhithwelediadau' - gwybodaeth ffug, gamarweiniol neu anghywir a gyflwynir fel ffaith. Sgil llythrennedd gwybodaeth pwysig ydy gwirio ffeithiau’r wybodaeth a gewch gan unrhyw offer DA.
Mae offer DA yn cyflwyno heriau o ran uniondeb academaidd, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:
Fel rheol, ni ddylid defnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial ond i ategu’ch sgiliau gwybodaeth eich hun, nid i'w disodli. Trwy ddefnyddio DA mewn ffordd a allai danseilio’ch sgiliau academaidd eich hun, ni fyddwch yn cyflawni eich canlyniadau dysgu.
Edrychwch ar y canllawiau cyfredol ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a ddarperir gan eich Adran. Os caniateir i chi ddefnyddio offer DA ar gyfer eich gwaith asesu, rhaid i chi fod yn agored a chydnabod yr hyn rydych wedi'i ddefnyddio. Rhaid i chi llenwi Datganiad eich Adran ar Ddefnyddio Offeryn a/neu gyfeirnodi'r offeryn. Os oes unrhyw amheuaeth, siaradwch â'ch tiwtor.
Pwysig: Os ydych yn defnyddio offer deallusrwydd artiffisial mewn asesiad yn groes i ganllawiau’ch Adran, mae’n bosib y byddwch yn cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio DA?
Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc am gymorth a chyngor ar ddod o hyd i adnoddau priodol ar gyfer eich astudiaethau, cloriannu ffynonellau a chyfeirnodi
Mae’r elfen Tasg o'r fformiwla yn diffinio'r beth yr hoffech i’r offer ei wneud.
Meddyliwch am yr hyn rydych chi am i'r offer DA ei wneud ac yna dewiswch y gair gweithredu.
Mae’r Pwnc yn darparu'r pwnc neu'r senario y dylai'r camau gweithredu ddigwydd ynddo.
Mae'r elfen hon yn sicrhau bod yr ymateb yn berthnasol ac â ffocws pendant. Byddwch yn benodol gyda'ch pwnc a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys unrhyw gyd-destun y bydd ei angen ar yr offer (er enghraifft eich nodiadau, dolenni neu fanylion penodol).
Mae’r Strwythur yn amlinellu'r fformat y dylid cyflwyno'r ymateb ynddo
Meddyliwch am sut hoffech chi i'r allbwn gael ei gyflwyno.
Mae’r Arddull yn dangos y dull y dylai'r cynnwys gael ei ysgrifennu.
Mae nodi'r arddull yn sicrhau bod yr allbwn yn cyd-fynd â'r gynulleidfa a fwriedir a diben yr allbwn.
Mae’r Lefel yn nodi dyfnder ac ehangder yr wybodaeth sydd ei hangen.
Meddyliwch am y gynulleidfa arfaethedig ar gyfer yr wybodaeth i'ch helpu i benderfynu pa mor gynhwysfawr y dylai'r ymateb fod.