Isod rhoddir rhai enghreifftiau o offer DA sydd ar gael am ddim a allai fod yn ddefnyddiol â'ch astudiaethau. Nid yw'r adnoddau hyn wedi cael sêl bendith Prifysgol Aberystwyth.
Mae Microsoft Word a Microsoft Edge bellach yn cynnwys offeryn a seilir ar DA o'r enw Editor. Mae Editor yn cynnal gwiriadau ar sillafu a gramadeg, ond gall hefyd wneud awgrymiadau ar lunio testun eglur a chryno, a mwy. Mwy o wybodaeth am Editor.
Mae Grammarly yn gynorthwyydd ysgrifennu digidol sy'n darparu awgrymiadau ar y pryd am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a goslef. Mae'n defnyddio DA i wella ysgrifennu ac mae ar gael fel ap ar y we, estyniad i’ch porwr, ac wedi’i integreiddio mewn llwyfannau fel Microsoft Word a Google Docs.
Mae QuillBot yn offeryn aralleirio wedi'i seilio ar Ddeallusrwydd Artiffisial sy'n helpu defnyddwyr i ailysgrifennu brawddegau a pharagraffau i’w gwneud yn fwy eglur, gwreiddiol a rhugl. Mae'n cynnig gwahanol arddulliau i gyd-fynd â gwahanol anghenion ysgrifennu.
Estyniad i’ch porwr a seilir ar Chat GPT sy’n gallu cynhyrchu crynodebau o destunau o dudalennau ar y we. Ar gael ar gyfer Chrome, Edge a Firefox.
Mae Perplexity AI yw gweithredu fel cynorthwyydd ymchwil. Yn debyg i offer DA cynhyrchiol eraill, gallwch ofyn cwestiynau iddo mewn iaith naturiol, bob dydd. Mae Perplexity hefyd yn dyfynnu'r ffynonellau y mae wedi'u defnyddio i gynhyrchu ei grynodebau.
Mae Zotero yn offeryn ymchwil ffynhonnell agored sydd ar gael am ddim sy'n helpu’r defnyddwyr i ddod o hyd i ffynonellau ymchwil, ac i’w trefnu, eu dyfynnu a’u rhannu. Mae modd ei ymgorffori mewn gwe-borwyr a phrosesyddion geiriau i symleiddio'r broses gyfeirnodi.
Mae Inciteful yn llwyfan ar-lein sydd wedi'i gynllunio i helpu ymchwilwyr ac academyddion i archwilio a dadansoddi testunau ysgolheigaidd yn fwy effeithiol. Mae'n defnyddio algorithmau uwch a Deallusrwydd Artiffisial i ddarparu dealltwriaeth a dod o hyd i gysylltiadau rhwng papurau academaidd.
Mae ResearchRabbit yn offeryn ar y we sydd wedi'i gynllunio i wella sut mae ymchwilwyr yn dod o hyd i destunau academaidd, a’u rheoli a’u defnyddio. Mae'n defnyddio algorithmau datblygedig ac DA i ddarparu argymhellion wedi’u teilwra ac offer deinamig ar gyfer archwilio a threfnu papurau ymchwil.
Mae Semantic Scholar yn offeryn ymchwil am ddim, wedi'i seilio ar Ddeallusrwydd Artiffisial a ddyluniwyd i helpu ymchwilwyr i ddod o hyd yn gyflym i wybodaeth berthnasol o gronfa ddata helaeth o bapurau academaidd ar draws amryw feysydd.
Mae Elicit.org yn llwyfan darganfod ymchwil arbenigol sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannol i symleiddio'r broses ymchwil, gan ei gwneud yn haws adnabod papurau perthnasol, canolbwyntio ar wybodaeth allweddol, a chael dealltwriaeth o sypiau helaeth o destunau academaidd.
Mae Dimensions yn gronfa ddata ymchwil a llwyfan dadansoddeg sy'n darparu modd i gyrraedd ystod eang o destunau ysgolheigaidd ac offer i ddadansoddi effaith ymchwil.
Mae Litmaps yn llwyfan ar-lein sydd wedi'i gynllunio i helpu ymchwilwyr ac academyddion i ddod o hyd i destunau ysgolheigaidd a’u tracio gydag amser.
Mae Elicit.org yn llwyfan darganfod ymchwil arbenigol sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannol i symleiddio'r broses ymchwil, gan ei gwneud yn haws adnabod papurau perthnasol, canolbwyntio ar wybodaeth allweddol, a chael dealltwriaeth o sypiau helaeth o destunau academaidd.
Mae Inciteful yn llwyfan ar-lein sydd wedi'i gynllunio i helpu ymchwilwyr ac academyddion i archwilio a dadansoddi testunau ysgolheigaidd yn fwy effeithiol. Mae'n defnyddio algorithmau uwch a Deallusrwydd Artiffisial i ddarparu dealltwriaeth a dod o hyd i gysylltiadau rhwng papurau academaidd.
Mae Notion yn weithfan gynhwysfawr sy'n cynnwys offer cymryd nodiadau, rheoli tasgau, cronfeydd data a chalendrau. Mae'n darparu hyblygrwydd helaeth i addasu’r offer, gan alluogi’r defnyddiwr i greu gweithfannau wedi'u teilwra at wahanol anghenion.
Mae Todoist yn offeryn rheoli tasgau sy'n helpu defnyddwyr i drefnu a blaenoriaethu tasgau. Mae'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddeall pa mor gynhyrchiol ydych chi ac i ddarparu nodiadau atgoffa.
Mae Evernote yn ap cymryd nodiadau sy'n rhoi modd i’r defnyddwyr i greu, trefnu a rheoli nodiadau ar draws dyfeisiau. Mae'n cynnwys nodweddion ar gyfer clipio cynnwys o’r we a sganio dogfennau.
Ar hyn o bryd nid yw Deallusrwydd Artiffisial yn medru cynhyrchu cyfeirnodau a chyfeiriadau cywir. Mae offer DA yn gwneud camgymeriadau fel:
Peidiwch â dibynnu ar unrhyw gyfeirnodau a gynhyrchir gan DA. Mae cyfeirnodi yn un o'r sgiliau academaidd allweddol y dylech eu meistroli tra byddwch yn y Brifysgol.
Mae Google Gemini, Perplexity, You, a Komo yn enghreifftiau o beiriannau chwilio neu gynorthwywyr ymchwil trwy gyfrwng DA.
Gwahaniaethau allweddol:
Edrychwch ar ganllawiau DA eich Adran neu holwch gydlynydd eich modiwl cyn defnyddio unrhyw offer DA ar gyfer eich gwaith a asesir.
Dylech hefyd ystyried eich cymhellion ac effaith defnyddio offer DA ar eich datblygiad sgiliau a'ch dysgu eich hun i'ch helpu i benderfynu a yw'n briodol.
Mae briff eich aseiniad neu gydlynydd y modiwl yn ei ganiatáu |
![]() |
Rydych yn ei ddefnyddio fel cymorth astudio i baratoi ar gyfer cyflwyniadau neu arholiadau | ![]() |
Rydych chi'n ei ddefnyddio i helpu eich dealltwriaeth o bwnc neu gysyniad | ![]() |
Rydych chi'n ei ddefnyddio i'ch helpu i ddechrau ar ddarn o waith | ![]() |
Rydych chi'n defnyddio offer DA yn feirniadol | ![]() |
Mae DA yn gwneud eich holl ymchwil neu'ch darllen ar eich rhan |
![]() |
Mae DA yn ysgrifennu eich aseiniad | ![]() |
Rydych chi wedi defnyddio offer DA heb gyfeirio atynt | ![]() |
Rydych wedi golygu eich gwaith yn sylweddol gan ddefnyddio offer DA | ![]() |
Mae Goblin.tools yn gasgliad o offer syml, hygyrch sydd wedi'u cynllunio i helpu â’ch gwaith trefnu a rheoli tasgau. Mae’r offer yn rhannu tasgau yn gamau hylaw, gan helpu’r defnyddwyr i aros ar y trywydd iawn.
Mae ChatPDF yn llwyfan ar-lein sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial i alluogi defnyddwyr i dynnu a dehongli gwybodaeth o ddogfennau PDF fel pe baent yn cael sgwrs. Ar ôl i'r ddogfen PDF gael ei huwchlwytho, gall y defnyddwyr deipio cwestiynau neu orchmynion sy'n gysylltiedig â chynnwys y ddogfen. Mae'r DA yn dadansoddi'r ddogfen ac yn darparu ymatebion ar sail y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y PDF.
Mae gan Word Microsoft 365 ac Word for the Web offer trawsgrifio wedi’u hymgorffori. Gall myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth ddefnyddio Word yn rhan o Office 365.