Mae Deallusrwydd Artiffisial (DA neu AI), yn faes o gyfrifiadureg sy’n canolbwyntio ar algorithmau a systemau sy'n gallu dysgu o ddata, adnabod patrymau, a gwneud penderfyniadau neu ragfynegi ar sail yr algorithmau neu'r systemau hynny.
Mae enghreifftiau o Ddeallusrwydd Artiffisial sydd wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd yn cynnwys sgwrsbotiau, meddalwedd adnabod delweddau neu adnabod llais, cerbydau hunanyrru, a systemau argymell (ar gyfer ffilmiau, cerddoriaeth neu siopa ar-lein).
Oes gennych chi gwestiwn am ddefnyddio DA?
Cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc am gymorth a chyngor ar ddod o hyd i adnoddau priodol ar gyfer eich astudiaethau, cloriannu ffynonellau a chyfeirnodi
Dyma grynodeb o sut mae DA yn cael ei ddefnyddio ym maes Addysg Uwch, gyda ffocws ar lyfrgelloedd.
Defnydd cyffredinol mewn Addysg Uwch:
Cymorth astudio: Cynorthwywyr ymchwil a sgwrsbotiau yn helpu i ateb cwestiynau ac esbonio cysyniadau.
Cymorth ysgrifennu: Mae offer DA yn cynorthwyo gyda gramadeg, sillafu a strwythuro.
Rheoli amser: Mae cynllunwyr deallus ac atgoffwyr yn helpu myfyrwyr i drefnu amserlenni astudio.
Hygyrchedd: Mae offer DA yn cefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (e.e. lleferydd-i-destun, darllenwyr sgrin).
Yn y Llyfrgell:
Hwyluso ymchwil: Mae offer DA yn cynorthwyo gyda dadansoddi data, adolygiadau llenyddiaeth ac ysgrifennu.
Chwilio callach: Mae DA yn gwneud dod o hyd i lyfrau, erthyglau ac adnoddau yn haws.
Cymorth 24/7: Mae sgwrsbotiau a pheiriannau chwilio DA yn helpu defnyddwyr i ganfod atebion i'w cwestiynau unrhyw bryd.
Argymhellion adnoddau: Mae DA yn awgrymu geiriau allweddol defnyddiol, awgrymiadau chwilio neu hyd yn oed deunydd darllen yn seiliedig ar eich cwrs neu ddiddordebau.