Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cadw i fyny yn eich pwnc: Twitter

Cyfrifon dilys

Gallwch chwilio am gyfrifon Twitter wedi'u dilysu ar https://support.twitter.com/articles/119135-faqs-about-verified-accounts

Mae'r bathodyn glas ar Twitter yn rhoi gwybod i bobl bod cyfrif o ddiddordeb y cyhoedd yn ddilys.

Ffordd ddefnyddiol o gadw golwg ar ddeunydd Twitter drwy #hashtag, @account, @mention, allweddair ac ati yw drwy ddefnyddio:

 

https://keyhole.co

Mae'n mesur data cyfryngau cymdeithasol amser real a hanesyddol yn gywir, gan ddangos gwybodaeth mewn graffiau a chynlluniau hawdd eu darllen sy'n symleiddio'r gwaith o adrodd a strategeiddio.

Mae KeyHole yn eich helpu i olrhain #hashtags, allweddeiriau, @accounts ac URLs yn ddiymdrech ar Twitter, Instagram, Youtube a Facebook.
 

Ystyriwch...

Beth am ddechrau drwy ddilyn neu hoffi...

  • Cyfrifon cyhoeddwr neu gyfnodolyn
  • Cyd-academyddion ac ymarferwyr sy'n rhannu gwaith a syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Sefydliadau sy'n cyd-fynd â'ch pwnc
  • Chwilio gan ddefnyddio hashnodau sy'n gyfredol yn eich maes neu faes diddordeb e.e. #vetscience

Cynhadleddau yn fyw ar Twitter

Mae llawer o gynadleddau'n trydar diweddariadau byw o'r cyflwyniadau wrth iddynt ddigwydd. Felly, hyd yn oed os na allwch ddod i gynhadledd, gallwch yn aml fynd i rai o'r trafodaethau.

I gael gwybod sut i gadw golwg ar gynhadledd benodol - yn y gorffennol neu'r dyfodol, chwiliwch am yr hashnod perthnasol (er enghraifft #vitae, #lilac21). Yna mewngofnodwch i Twitter a chwiliwch am yr hashnod perthnasol i ddilyn y trafodaethau.

Os nad ydych erioed wedi defnyddio Twitter o'r blaen neu os hoffech gael gloywi ar ei ddefnyddio, gallwch ymweld â'r canllaw twitter defnyddiol: Getting Started Guide (twitter.com) 

Mae rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i gynadleddau perthnasol ar gael yn y tab Cynadleddau y canllaw hwn. 

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau