Porwch drwy'r tabiau canlynol i weld y gwahanol ffyrdd y medrwch ddal fyny gyda'r newyddion diweddaraf.
Dal i fyny â newyddion radio a theledu. Cynnwys dros 60+ o sianeli teledu a radio.
Dyma ein Cwestiynau a Holir yn Aml am BoB: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=BOB
Mae Center for Research Libraries (CRL) yn gonsortiwm rhyngwladol o Brifysgolion, Colegau a Llyfrgelloedd ymchwil annibynnol.
Mae tua 5,000,000 o bapurau newydd, cylchgronau, llyfrau, pamffledi, traethodau, archifau, cyhoeddiadau'r Llywodraeth, ac adnoddau eraill a ddelir gan CRL yn cefnogi ymchwil ac addysgu gwreiddiol. Mae casgliadau CRL yn cynnwys deunyddiau o bob rhanbarth byd: Affrica Is-Sahara, America Ladin, y Dwyrain Canol, De a De -Ddwyrain Asia, Gogledd America ac Ewrop. Er bod y casgliadau hyn yn rhai papur a microffurf yn bennaf, mae CRL yn darparu mynediad ar-lein i gorff o ddeunyddiau digidol sy'n ehangu'n barhaus.
Mae hwn yn becyn gyda ...
dros 28,000 o gyfnodolion
dros 1,700 o rifynnau eLyfr (4,000 o gyfrolau) gan gynnwys gwyddoniaduron a chyfeiriaduron
dros 13 miliwn o dudalennau o ffynonellau cynradd hanesyddol o'r 13eg i'r 21ain ganrif
dros 1.5 miliwn o eitemau o feirniadaeth llenyddiaeth a gweithiau llenyddol testun llawn
Cronfa-ddata sy’n cynnwys rhifyn digidol cyflawn The Times (Llundain) o 1785- 2019. Mae’n cynnwys pob tudalen gyflawn o bob rhifyn o’r papur, gan gynnwys penawdau, erthyglau a delweddau o’r holl gynnwys – tudalennau blaen, erthyglau golygyddol, hysbysiadau geni a marw, hysbysebion a mân hysbysebion.
Pob papur newydd cenedlaethol a rhanbarthol wedi'u gyhoeddi ar-lein: dyddiol, wythnosol a chylchgronau misol yr holl gyfryngau darlledu.
Dewch draw i’r llyfrgell i bori drwy ein casgliad o bapurau newydd neu edrych ar y casgliad cynhwysfawr o bapurau newydd o’r gorffennol a’r rhai cyfredol rydym yn tanysgrifio iddynt ar-lein:
Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i e-adnoddau sy'n rhoi mynediad i chi at lawer o bapurau newydd rhyngwladol a phapurau newydd yn y Deyrnas Unedig. Cewch edrych arnynt trwy fewngofnodi i'r Primo lle gallwch ddod o hyd i restr o ffynonellau newyddion cyfredol a newyddion o’r gorffennol yn Nghronfeydd Data A-Z, ynghyd â gwybodaeth am fynediad oddi ar y campws. Mae’r rhestr o adnoddau yn cynnwys:
• Gale Reference Complete, sy'n rhoi mynediad i dros 12,000 o bapurau newydd rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang o 100 o wledydd ledled y byd
• Times Digital Archive, argraffiadau digidol cyflawn o’r Times rhwng 1785 a1985.