Gall blogiau fod yn ffordd ddefnyddiol, anffurfiol o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau newydd. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau academaidd a llawer o adrannau ac ymchwilwyr unigol bellach yn cyhoeddi diweddariadau anffurfiol ar eu gweithgareddau ar ffurf blogiau a phodlediadau.
Mae enghreifftiau da o wefannau lle gellir dewis blogiau a phodlediadau personol a sefydliadol ar gyfer y canlynol yn cynnwys
PodBay | |
iTunes Podcast Directory | |
https://www.theguardian.com/tone/blog The Guardian Research Blogs listing *includes specific sections on science, technology, education, arts, society, culture
|
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i flog neu bodlediad yr ydych yn ei hoffi, yna gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf amdano gan ddefnyddio safleoedd fel Netvibes neu Feedly. Mae llawer o flogiau yn caniatáu i chi ddefnyddio crynodebau RSS fel bod cynnwys newydd yn cael ei gyflwyno'n awtomatig i chi. Mwy o wybodaeth am RSS.
Os hoffech ddechrau blogio, mae llawer o rai am ddim ar gael fel WordPress a Blogger.