Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cadw i fyny yn eich pwnc: Traethodau hir

Porth Ymchwil Aberystwyth

Ydych chi am weld ymchwil gyda'r canfyddiadau diweddaraf?

Efallai yr hoffech chi chwilio a bwrw golwg ar Borth Ymchwil Aberystwyth, traethodau ymchwil printiedig ac electronig ar-lein. Gallwch hidlo yn ôl maes pwnc ac ystod dyddiad (er enghraifft, 2020-2021).

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.

Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys proffiliau personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.

Gellir archwilio’n unigol yr holl fathau o gynnwys drwy Borth Ymchwil Aberystwyth gan ddethol yr opsiwn ar y ddewislen ar y chwith. Mae gan pob math o gynnwys ei opsiwn Chwilio Manwl, sy’n eich galluogi i fireinio’r canlyniadau. Gallwch ddidoli’r rhan fwyaf o’r mathau cynnwys gyda’r opsiynau ar yr ochr dde.

Eitemau Mynediad Agored

Mae gan sawl allbwn ymchwil; traethodau a chofnodion set data, gopïau o’r eitem ynghlwm a’r cofnod. Dangosir hyn gyda symbol clip-papur i’r dde or gofnod yn y rhestr canlyniadau. Ble mae copi o’r allbwn ymchwil yn rhad ac am ddim fe geir ei nodi fel ‘Mynediad Agored’. O fewn y gofnod unigol i’r eitem, dangosir y copi ar gael ar waelod y dudalen.

Eitemau dan embargo

Mae’n bosib y bydd rhai allbynnau ymchwil, traethodau a chofnodion set data, â chynnwys dan embargo, fe nodir hyn gyda symbol clip papur wedi ei groesi allan ar ochr dde i’r eitem yn y rhestr canlyniadau. Mae’n bosib ‘ceisio copi’ o’r ffeil drwy’r cyswllt e-bostiwch-at o fewn y cofnod unigol i’r eitem ar waelod y dudalen.

Ceisiadau am ddefnyddio offer

Mae sawl eitem o offer a restrir o fewn y porth ar gael i’w benthyg, dangosir hyn o fewn y gofnod unigol. Mae’n bosib ‘ceisio ddefnyddio’ darn o offer drwy’r cyswllt e-bostiwch-at o fewn y cofnod unigol i’r eitem ar waelod y dudalen.

Traethodau hir printiedig

Traethodau hir printiedig

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gasgliad o'r traethodau ymchwil a all fod yn ddefnyddiol i gael gwybod mwy am ymchwil a chanfyddiadau cyfredol yn eich maes pwnc.

Mae'r casgliad wedi'i leoli ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen.  Gellir cael gafael ar y rhain drwy osod cais drwy gatalog Primo'r Llyfrgell. 

Gallwch ddefnyddio'r chwiliad allweddair syml ar Primo i chwilio am unrhyw draethawd ymchwil Prifysgol Aberystwyth: e.e. traethawd ymchwil clefydau buchol a hidlo'r flwyddyn i'r flwyddyn gyfredol.  Maent ar gael at ddefnydd cyfeirio yn unig (ni ellir benthyca'r defnydd - defnydd yn y Llyfrgell yn unig)

Traethodau hir arall electronig

Argaeledd traethodau hir ar-lein y Llyfrgell Brydeinig

Chwiliwch dros 500,000 o draethodau ymchwil doethuriaeth gan ddefnyddio EThOS, y gwasanaeth traethodau ymchwil ar-lein trwy'r Llyfrgell Brydeinig. Dadlwythwch ar unwaith ar gyfer eich ymchwil, neu archebwch gopi wedi'i sganio yn gyflym ac yn hawdd.