Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau o e-lyfrau.
Mae gennym filoedd o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n barhaus.
Gallwch gael mynediad i ddarllen e-lyfr drwy Primo. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Testun Llawn Ar-lein yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer elyfrau yn unig.
Os oes gennym y llyfr mewn fersiwn electronig, bydd y cofnod ar Primo yn datgan Mynediad arlein.
Ymwelwch â'n Cwestiynau Cyffredin eLyfrau am ragor o wybodaeth ac i weld rhagor o gyfarwyddiadau
Primo yw catalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth.
Yn Primo gallwch chwilio am lyfrau, erthyglau, traethodau ymchwil a deunyddiau eraill yng nghasgliad y llyfrgell o adnoddau print ac electronig.
I gael y canlyniadau gorau o Primo, bydd angen i chi fewngofnodi.
Desg Ymholiadau Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen
Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, eich traethawd hir neu'ch ymchwil.
Neu drefnwch apwyntiad ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc: https://libcal.aber.ac.uk/
Ym mlwch chwilio Primo rhowch un neu ddau o eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw'r awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos gallwch ddewis Llyfrau yn y ddewislen Addasu fy nghanlyniadau ar y chwith i ddangos y canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig.
Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.
Llyfr ar fenthyg
Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.
Medrwch ad-alw llyfr os yw ar fenthyg hefyd ar gyfer Clicio a Chasglu.
Mynediad Ar-lein
Os yw'r eitem ar gael mewn fformat electronig, cliciwch Mynediad arlein i gael y fersiwn ar-lein.
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler: https://faqs.aber.ac.uk/cy/163.
Canllawiau i'ch helpu chi yw ein LibGuides. Maent yn cynnig gwybodaeth fanwl am adnoddau print ac electronig ar gyfer pob pwnc
https://libguides.aber.ac.uk
Nawr rhowch gynnig ar y Cwis ar y tab nesaf.